Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Adeiladau a Cherbydau Di-fwg

Mae ysmygu’n anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd os ydyn nhw’n gyfan gwbl neu’n rhannol gaeedig.

Girl-smoking-a-cigaretteO Mawrth 1af 2021 mae'r ddeddfwriaeth ddi-fwg yng Nghymru wedi newid. Mae'r ddeddfwriaeth flaenorol (Rheoliadau Adeiladau Di-fwg ac ati (Cymru) 2007 a'r diwygiadau dilynol) bellach wedi'i dirymu a'i disodli:

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017; Pennod I Rhan 3

Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020

Mae'r ddeddfwriaeth newydd wedi ymestyn y math o adeilad lle mae gofynion di-fwg i'w cymhwyso:

  • Gweithleoedd (lle maent wedi'u cau neu wedi'u cau'n sylweddol)
  • Adeiladau sy'n agored i'r cyhoedd (lle maent wedi'u cau neu wedi'u cau'n sylweddol)
  • Cerbydau di-fwg
  • Lleoliadau gofal awyr agored i blant
  • Tiroedd ysgol
  • Tiroedd ysbytai
  • Meysydd chwarae cyhoeddus


Mae methiant i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth yn drosedd cyfreithiol – mae 3 trosedd penodol:

  • peidio ag arddangos arwyddion dim ysmygu mewn mannau mae’r ddeddfwriaeth yn eu penodi (dirwy sefydlog o £200 neu uchafswm dirwy o £1,000 yn achos euogfarn)
  • ysmygu mewn man di-fwg (dirwy sefydlog o £100 neu uchafswm dirwy o £200 yn achos euogfarn)
  • peidio ag atal ysmygu mewn man di-fwg (uchafswm dirwy o £2,500 yn achos euogfarn)
  • ysmygu mewn cerbyd sy'n cynnwys plentyn o dan 18 oed (cosb sefydlog o £100)

Mae hefyd yn drosedd yn fwriadol i rwystro swyddog sy wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i weithredu’r ddeddfwriaeth, neu beidio â chynorthwyo’r swyddog wrth iddo wneud ei briod waith heb achos rhesymol (uchafswm dirwy o £1,000 yn achos euogfarn)

Rydyn ni’n gweithredu’r deddfwriaethau hyn ac yn cynnig cymorth i fusnesau i gydymffurfio â nhw.

Ysmygu mewn Cerbydau

Mae’r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus hefyd yn berthnasol i bob cerbyd a ddefnyddir ar gyfer gwaith.

Trafnidiaeth gyhoeddus – rhaid i bob cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio i gludo aelodau’r cyhoedd fod yn ddi-fwg bob amser, yn cynnwys tacsis. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod trafnidiaeth gyhoeddus yn ddi-fwg.

Cerbydau gwaith - mae’n ofynnol i gerbydau a ddefnyddir fel gweithle gan fwy nag un person (p’un ai ydynt yn y cerbyd ar y pryd ai peidio) fod yn ddi-fwg bob amser. Mae hyn yn berthnasol i bob cerbyd a ddefnyddir ar gyfer gwaith, boed hynny’n gerbyd nwyddau trwm, yn fan cyflenwi nwyddau neu’n gerbyd fferm. Mae hyn yn amddiffyn gweithwyr shifft a gweithwyr eraill sy’n defnyddio’r un cerbyd rhag y perygl i iechyd a achosir gan fwg ail-law.

Cerbydau caeedig yn unig sy’n gorfod bod yn ddi-fwg. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, mai dim ond pan fo’r to yn ei le mae’n rhaid i gar agored sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith fod yn ddi-fwg.

Caniateir ysmygu mewn cerbydau sy’n cael eu defnyddio gan y gyrrwr yn unig ac nad sy’n cael eu defnyddio fel gweithle gan neb arall, boed hynny fel gyrrwr neu fel teithiwr.

Mae’n ofynnol i weithredwyr cerbydau di-fwg arddangos arwyddion dim ysmygu sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n ofynnol gan y rheoliadau. Mae’r arwyddion gorfodol hyn yr un maint a math â’r arwyddion dim ysmygu a ddefnyddir eisoes ar amryw fathau o drafnidiaeth gyhoeddus, megis bysiau, coetsis a threnau.

Mae’n ddyletswydd ar weithredydd, gyrrwr neu unrhyw unigolyn sy’n gyfrifol am drefn neu ddiogelwch cyhoeddus mewn cerbyd di-fwg atal ysmygu.

Y gwaharddiad ar ysmygu a darparu cysgodfeydd ysmygu

Oherwydd bod deddf sy’n gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus ‘cyfan gwbl neu rannol gaeedig’, efallai bydd busnesau eisiau darparu cysgodfeydd neu ardaloedd penodol lle gall y gweithlu neu gwsmeriaid ysmygu. Nid oes gofyniad cyfreithlon i ddarparu cysgodfeydd, ond os caiff ei wneud, rhaid iddynt gael eu llunio mewn modd sy’n cydymffurfio â gofynion y rheoliadau.

Cynghorir chi i feddwl yn ofalus am y mannau lle mae’ch staff a’ch cwsmeriaid yn debygol o ysmygu, ac ystyried y materion eilaidd sy’n codi o gyflwyno’r gwaharddiad ysmygu, fel iechyd a diogelwch, ysbwriel (e.e. bonion sigaréts) ac yn achos y diwydiant masnach trwyddedig, sŵn ac ymddygiad anghymdeithasol.

Buasem yn argymell i chi gysylltu â’r GRhR am gyngor pellach cyn prynu neu osod cysgodfa o unrhyw fath:

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

Ymholiadau cyffredin

Beth ydy union ystyr ‘cyfan gwbl neu rannol gaeedig’?

Caiff hyn ei ddiffinio yn Rheoliadau Di-fwg etc. (Cymru) 2007. Yn syml, mae ‘man caeedig’ yn un sydd â nenfwd neu do, ac ar wahân i ddrysau, ffenestri a chynteddau, maent yn gwbl gaeedig ar sail barhaol neu dros dro. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid bod muriau gan safle, ac y gallai fod yn ardal o dan ganopi neu gysgodlen.

Os oes agoriadau (neu fylchau) mewn muriau safle sydd, fel cyfanswm, yn llai na hanner arwynebedd y muriau i gyd, yna caiff ei ddyfarnu’n ‘gaeedig i raddau helaeth’. Noder nad ydy drysau, ffenestri na chynteddau’n cael eu dyfarnu’n agoriadau.

Pam nad ydy drysau, ffenestri na chynteddau’n cael eu dyfarnu’n agoriadau?

Mae’r rhain wedi cael eu heithrio drwy’r ddeddfwriaeth wrth benderfynu a ydy safle neu ran o safle’n gaeedig neu’n rhannol gaeedig.

Pwrpas y ddeddfwriaeth ydy sicrhau bod awyru naturiol digonol ac effeithlon mewn unrhyw fan lle caniateir ysmygu. Er mwyn cyflawni hyn, yn ddelfrydol, dylai agoriadau fod yn ofodau parhaol sy’n agored i’r aer y tu allan.

Mae’n bosibl cau drysau, ffenestri a ffitiadau eraill. Fel arfer, mae cyntedd yn gyfan gwbl neu’n rhannol gaeedig, ac felly ni fydd yn ddefnyddiol o ran awyru.

A oes safonau rheoliadol ar gyfer cysgodfeydd ysmygu?

Oherwydd yr amrywiaeth eang yn y mathau o gynlluniau y gellir eu defnyddio ar gyfer cysgodfeydd ysmygu, mae’n anodd iawn sefydlu safonau penodol, felly nid oes rhai wedi cael eu pennu.

Fodd bynnag, mae amcangyfrif y gellir ei ddefnyddio i asesu a ydy adeiladwaith yn ‘gyfan gwbl gaeedig’ neu’n ‘gaeedig i raddau helaeth’.

Sut galla i amcangyfrif a ydy adeiladwaith yn ‘gyfan gwbl gaeedig’ neu’n ‘gaeedig i raddau helaeth’?

Yn gyntaf, rhaid penderfynu ar berimedr y gysgodfa ysmygu. Fel arfer, hon ydy’r ardal o dan do’r gysgodfa.

Unwaith byddwch chi’n gwybod maint y perimedr, gallwch chi ddiystyru’r to, gan nad ydy e’n rhan o’r amcangyfrif.

Yn gyntaf, cyfrifwch yr arwynebedd cyfan o fewn y perimedr, yn cynnwys pob gwrthrych solet a gofod (T).

Yna, cyfrifwch arwynebedd cyfan y muriau (X) ac arwynebedd unrhyw agoriadau (Y). Cofiwch nad ydy muriau, drysau etc. yn cael eu dyfarnu’n agoriadau.  

Felly T = X + Y.

Os ydy X yn fwy nag Y, mae’r gysgodfa ysmygu’n gaeedig i raddau helaeth, ac felly nid ydy’n addas.

Pa mor bell i ffwrdd mae angen i gysgodfa ysmygu fod wrth adeiladau eraill?

Nid oes pellter wedi ei benodi o fewn y ddeddfwriaeth, ond mae’n datgan yn eglur y gellir ystyried ‘adeiladwaith arall sy’n cyflawni’r un pwrpas â mur’ wrth benderfynu a ydy adeiladwaith yn ‘gyfan gwbl gaeedig’ neu’n ‘gaeedig i raddau helaeth’.

Gall y term ‘adeiladwaith’ olygu pethau naturiol fel llwyni, neu rai gwneud, fel muriau bric. Gall adeiladwaith fod yn barhaol neu dros do, ac felly byddai’n cynnwys eitemau fel sgriniau a phlanhigion mewn potiau.

Gan y gall adeiladwaith gynnig cysgod, gellid ystyried bod unrhyw wal neu adeiladwaith arall sy’n agos at y gysgodfa yn ymestyn yr ardal lle caniateir ysmygu, felly byddai gofyn cynnwys y perimedr estynedig yn yr amcangyfrif. Yn yr achos hwnnw, mae’n llai tebygol y byddai’r ardal yn cydymffurfio, ac ni fyddai ysmygu’n cael ei ganiatáu.

Argymhellir gosod cysgodfeydd mor bell ag sy’n rhesymol ymarferol oddi wrth adeiladau eraill, a bydd angen edrych ar bob achos yn unigol.

Beth am y gofynion Cynllunio, Rheoli Adeiladau a Thrwyddedu?

Mae’n bwysig cofio bod angen i unrhyw gysgodfa gydymffurfio â phob deddfwriaeth sy’n ymwneud â Chynllunio, Rheoli Adeiladau ac amodau safleoedd trwyddedig yn ogystal â deddfwriaeth Ysmygu.

Cynghorir chi hefyd i gysylltu â’r Swyddog Tân i drafod yr effaith y gallai cysgodfa ei chael ar ffyrdd dianc rhag tân etc.

Mae gwybodaeth bellach ar ddeddfwriaeth ysmygu yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.