Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Anafiadau, Digwyddiadau a Damweiniau yn y Gweithle

Mae dyletswydd ar bob cyflogwr a ‘phobl gyfrifol’ eraill i adrodd rhai damweiniau, clefydau galwedigaethol a digwyddiadau peryglus yn y gweithle.

Caiff y rhain eu cynnwys o dan y Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus yn y Gweithle 2013 (RIDDOR).

Wet-floor-signDylid adrodd yr isod:

  • Marwolaethau
  • Anafiadau difrifol (yn cynnwys aelodau’r cyhoedd sy’n gorfod mynd i’r ysbyty)
  • Anafiadau sy’n para am fwy na 7 diwrnod
  • Clefydau galwedigaethol
  • Digwyddiadau peryglus / a allai fod yn beryglus, a gafodd eu hosgoi
  • Gweithredodd treisgar yn erbyn staff

Dweud wrthon ni: Digwyddiad

Gellir dweud wrthon ni ar-lein am ddigwyddiadau drwy fynd i wefan yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch a llenwi’r ffurflen berthnasol.

Mae gwasanaeth ffôn ar gael hefyd ar gyfer rhoi gwybod am anafiadau marwol a phenodol yn unig – ffoniwch Ganolfan Gyswllt yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch ar 0345 300 9923 (oriau agor: dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30a.m. tan 5.00p.m).

 

Archwiliadau i gwynion sy’n ymwneud â’r gweithle a darparu cyngor

Os oes angen cyngor arnoch chi am bryderon iechyd a diogelwch yn eich gweithle neu’ch busnes, gallwch chi gysylltu â ni i drafod y mater ac, os oes angen, gall swyddog ymweld â chi i ddarparu gwybodaeth ar y safle.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn archwilio cwynion gan y cyhoedd am faterion sy’n ymwneud â’r gweithle. Gall y cwynion hyn amrywio o fethiant gweithiwr i ddarparu adnoddau arbennig fel dillad amddiffynnol i gyflwr tai bach ac amodau gwaith cyffredinol.

Ar dderbyn cwyn, bydd archwiliwr yn penderfynu a ddylid gweithredu’n orfodol ai peidio. Mae pwerau gorfodi’n cynnwys cyflwyno rhybudd ffurfiol, ysgrifenedig a defnyddio Hysbysiadau Gwella i ddatrys materion o fewn cyfnod penodol.

Yn yr achosion mwyaf difrifol, bydd swyddogion yn cyflwyno Hysbysiad Gwahardd i atal gweithgaredd neu broses benodol.

 

 


 

Tybiau poeth

Rheolaeth Legionella mewn Tybiau Poeth a Sba

Gweminarau a Phecyn Cymorth Diogelwch Twb Poeth ar gyfer darparwyr llety (Gwasanaeth Safonau Masnach Calon De Orllewin Lloegr)

 


 

Dweud wrthon ni: Cwyn Iechyd a Diogelwch

Os ydych chi’n poeni am arferion neu amodau iechyd a diogelwch mewn busnes, neu os oes angen cyngor ar Iechyd a Diogelwch arnoch chi, cysylltwch â ni.

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU