Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Archwiliadau Bwyd

Mae gan Swyddogion Awdurdodedig hawl i fynd i mewn i fusnes bwyd a’i archwilio ar unrhyw amser rhesymol heb wneud apwyntiad, a heb rybudd ymlaen llaw fel rheol.

 

Hygiene-InspectorAwdurdodir y swyddogion i archwilio’r safle, archwilio’r bwyd, cyfweld aelodau staff, archwilio cofnodion (yn cynnwys cofnodion cyfrifiadurol), cipio bwyd, cymryd samplau a thynnu lluniau y gellid eu defnyddio fel tystiolaeth.

Bydd archwiliad bwyd yn:

  • Adnabod ac arbed peryglu iechyd y cyhoedd
  • Cynnig cyngor ar arferion hylendid bwyd da
  • Archwilio i unrhyw achos o dor cyfraith deddfwriaeth bwyd a gweithredu fel y bo’r galw i sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r gyfraith

 

Ar ôl yr Archwiliad

Ar ôl i’r Swyddog Awdurdodedig gwblhau’r archwiliad, bydd yn trafod ei ganfyddiadau â’r unigolyn sy’n gyfrifol am y safle bwyd. Mae adroddiad ysgrifenedig yn cael ei anfon at berchennog y busnes.

Bydd yr adroddiad yn dynodi pob maes lle mae’r busnes yn methu â chydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd. Bydd hefyd yn manylu ar ba gamau mae’n rhaid i berchennog y busnes eu cymryd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio’n llwyr â’r ddeddfwriaeth.

Bydd y Sgôr Hylendid Bwyd a dderbyniodd y busnes yn cael ei chynnwys gyda’r adroddiad. Gellir darllen sgoriau hylendid bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Pan fydd arferion neu amodau’n anfoddhaol, rhoddir cymorth i’r busnes i’w helpu i wella ei safonau a chydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd. Fodd bynnag, os nad yw’r amodau’n gwella, neu oes perygl i iechyd y cyhoedd, gellir cyflwyno Rhybudd Statudol i berchennog y busnes. Mae methu â chydymffurfio â rhybudd statudol yn drosedd a allai arwain at ddirwy neu garchar yn achos euogfarn.

Ymweliadau Pellach

Os ydy archwiliad yn casglu bod angen cyflawni gwaith i wella safonau, gellir trefnu un neu fwy o ymweliadau pellach. Ni fydd hyn yn newid y Sgôr Hylendid Bwyd oni bai eich bod wedi gwneud cais i adolygu’ch sgôr.

 

Ffurflenni ac Arweiniad

Daeth y ddeddfwriaeth hylendid bwyd cyfredol i rym ym mis Ionawr 2006. Y rheoliadau pwysicaf sy’n berthnasol i Fusnesau Bwyd yn benodol ydy: