Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Rheoli Diogelwch Bwyd

Mae system Dadansoddi Perygl a Rheolaeth Pwynt Difrifol (HACCP) yn helpu perchnogion busnesau bwyd i edrych ar y ffordd maen nhw’n trin bwyd ac yn cyflwyno dulliau i sicrhau bod y bwyd sy’n cael ei gynhyrchu’n ddiogel i’w fwyta.

Chicken-burger

Mae nifer o ddogfennau ar gael sy’n cynnig cyngor ar y ffordd orau o gwblhau dadansoddiad perygl ar gyfer eich busnes. Dylid adolygu eich system ddadansoddi perygl bob blwyddyn, a bob tro rydych chi’n cyflwyno unrhyw newidiadau i’r busnes e.e. i’ch bwydlen neu i’ch cyfarpar.

  • Gweithredu gorfodaeth lle nad ydy busnesau’n cyflwyno a chynnal trefn yn seiliedig ar egwyddorion HACCP.
  • Cynnig cyngor ac arweiniad ar drefn rheoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion HACCP sy’n addas i’ch busnes.

 Mae’n ofynnol yn unol â’r ddeddfwriaeth fod gennych system reoli diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar egwyddorion HACCP. Dylai hon fanylu ar y ffordd rydych chi’n bwriadu cynhyrchu bwyd yn ddiogel, ac ar y system fonitro rydych chi’n ei gweithredu i wirio bod y system yn ddiogel.

Bydd y system yn cael ei gwirio yn ystod eich archwiliad. Gallai methiant i gydymffurfio â’r gofyniad hwn effeithio ar eich sgôr hylendid bwyd, ac arwain at gamau gorfodaeth. Dylai’r system fod yn weithredol bob amser pan fyddwch chi’n masnachu.

Mae dulliau eraill o gydymffurfio â’r gofyniad. Gallwch chi naill ai gwblhau dogfen HACCP neu ddefnyddio’r ffolder SFBB a geir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Ffurflenni a Chanllawiau