Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cwynion am Fwyd a Hylendid

Cyngor a chanllawiau i’r cyhoedd am wneud cwynion am fwyd a hylendid.

 

 

Mae’r GRhR yn asesu cwynion bwyd a hylendid ac yn archwilio a oes perygl i iechyd cyhoeddus.

Mae cwynion bwyd a hylendid yn cynnwys:

  • Bwyd sy’n anaddas i’w fwyta, e.e. cig sy’n pydru
  • Bwyd wedi’i heintio, e.e. llwydni trwm ar gaws
  • Eitem na ddylai fod yn y bwyd, e.e. bollt mewn torth o fara
  • Safonau hylendid mewn busnes bwyd

 

Gwneud Cwyn am Fwyd neu Hylendid

Os ydych chi’n pryderu am arferion trin bwyd neu safonau hylendid unrhyw fusnes bwyd, ffoniwch y rhif isod â’r manylion er mwyn i ni gynnal archwiliad pellach.

Noder: Dylid dweud wrth y siop, y gwneuthurwr neu’r cyflenwr lle prynwyd y bwyd neu’r ddiod os ydyn nhw o safon anfoddhaol.

Noder yn ogystal na fydd Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn ymdrechu i gaffael nac i drafod telerau unrhyw iawndal ar ran y cwsmer (iaid). Nodwch hefyd nad ydym yn ymchwilio i gwynion di-enw.

Ffurflenni a Chanllawiau