Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cyrsiau Hyfforddiant

Os ydych chi’n rhedeg, neu’n bwriadu rhedeg, busnes bwyd, mae’n hanfodol fod gennych wybodaeth drylwyr am hylendid a diogelwch bwyd.

Mae’n ofyniad cyfreithlon i bob un sy’n trin bwyd o fewn eich busnes fod wedi ei hyfforddi i lefel sy’n gymesur â’i ddyletswyddau. Dydy hyn ddim o anghenraid yn golygu bod angen iddo feddu ar dystysgrif diogelwch bwyd, ond miFood Safety Training 4 fydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ei fod wedi cael ei hyfforddi mewn modd addas.

Disgwylir i’r sawl sydd â gofal dros y busnes a / neu oruchwylwyr fod wedi eu hyfforddi i lefel uwch na’r sawl maen nhw’n eu goruchwylio. Efallai yr hoffech ystyried derbyn hyfforddiant pellach os ydych chi wedi cyrraedd lefel dau hyfforddiant hylendid bwyd.

Cyrsiau

Rydyn ni’n ganolfan hyfforddiant sy wedi ei chofrestru â Chymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd a Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.

Mae ein cyrsiau hylendid bwyd yn darparu hyfforddiant sy’n cyd-fynd â chanllawiau a deddfwriaeth gyfredol diogelwch bwyd i fusnesau.

Lefel 2 Diogelwch Bwyd a Hylendid

Mae’r cwrs yma’n benodol ar gyfer staff a chyflogwyr sy’n gweithio mewn man lle caiff bwyd ei storio, ei baratoi, ei drin a’i weini, ac mae’n darparu cyflwyniad i arferion da ar gyfer hylendid bwyd.

Mae cyrsiau Lefel 2 Diogelwch Bwyd a Hylendid yn cael eu cynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar y dyddiadau canlynol:

Gorffennaf 8fed, 2022

Buasai’r cwrs o fudd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hylendid bwyd hefyd. Darperir y cwrs yn Saesneg. Ymhlith y pynciau dan sylw mae:

  • Microbioleg sylfaenol
  • Gwenwyn bwyd
  • Hylendid personol
  • Heintio bwyd
  • Storio bwyd a rheoli tymheredd
  • Difa plâu
  • Cynllun y safle a’r cyfarpar
  • Glanhau
  • Y gyfraith a rheoli

 

Lefel 3 Goruchwylio Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo

Mae’r cwrs hwn i bobl sy’n gweithio gyda bwyd ar lefel rheoli neu oruchwylio, fel prif gogyddion, rheolwyr bwyd a diod a rheolwyr bwytai.

Mae’n galluogi rheolwyr i ddeall hylendid bwyd a systemau dadansoddi perygl, a deall eu cyfrifoldebau nhw wrth reoli hylendid bwyd.

Bydd ein cwrs Lefel 3 Goruchwylio Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar:

Dyddiadau i'w cadarnhau

Rhaid bod gennych Dystysgrif Sylfaen Hylendid Bwyd / Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd i fynychu’r cwrs hwn. Yn ogystal, dylai fod gennych sgiliau goruchwylio a Saesneg ysgrifenedig o safon uchel.

 

Dylech sicrhau bod unrhyw gwrs rydych chi’n ei ddewis wedi ei achredu drwy gysylltu ag un o’r sefydliadau isod:People-on-a-training-course

Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd – 0207 928 6006

Canllaw i gyrsiau CIEH

Sefydliad Brenhinol Iechyd y Cyhoedd a Hylendid – 0203 177 1601

Cymdeithas Technoleg Hylendid Bwyd – 01827 872500

Corff Dyroddi Highfield – 0845 2260350 / 01302 363277

Sylwch, os gwelwch yn dda: Bydd angen i BOB ymgeisydd ddangos dogfennau gyda llun fel prawf adnabod i'n cyrsiau Diogelwch Bwyd. Ni fydd hawl i ymgeisydd eistedd yr arholiad heb prawf adnabod o'r math yma. Bydd pasbort neu trwydded yrru yn ddigonol.

Os hoffech chi wybodaeth pellach am ein hyfforddiant hylendid bwyd, cysylltwch â ni drwy ffonio 02920 871120 neu ebsotio training-srswales@valeofglamorgan.gov.uk