Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:
ValeOfGlamorganCouncilLogo

Rheoli Plâu Cyngor Bro Morgannwg

Darparu gwasanaeth cynhwysfawr rheoli plâu i drigolion Bro Morgannwg ac anelu at ymateb i geisiadau am wasanaeth o fewn 5 diwrnod gwaith.

 

Rat

  • Darparu gwasanaeth am ddim i blâu fel llygod mawr (y tu mewn), llygod, pỳcs a chwilod duon mewn cartrefi
  • Darparu triniaethau cost-effeithiol yn achos cartrefi gyda llygod mawr (y tu allan) a phlâu eraill
  • Darparu amcangyfrif costau rhesymol a chystadleuol ar gyfer gwasanaeth rheoli plâu ar safleoedd masnachol
  • Ymgymryd â chynllun baetio carthffosydd i drin llygod mawr mewn partneriaeth â’r Awdurdod Dŵr

Rydyn ni hefyd yn darparu gwasanaeth adnabod ar gyfer plâu pryfed, ac yn cynnig cyngor ar eu rheoli. Bydd angen i chi anfon sampl aton ni neu ddod ag un i mewn i’r Swyddfeydd Dinesig mewn cynhwysydd diogel.

Os ydych yn postio’r pryfyn, defnyddiwch gynhwysydd cadarn, diogel, a chofiwch y dylai fod y pryfed wedi marw. O dan amgylchiadau arbennig, efallai bydd yn bosibl i ni adnabod plâu yn eich cartref.

Rhestr ffioedd a thaliadau

Cliciwch yma i weld ein thaliadau domestig a masnachol.

Dwedu wrthon ni: Problem Plâu

I ddweud wrthon ni am broblem â phla ym Mro Morgannwg, cysylltwch â’r Tîm Rheoli Plâu:

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU