Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

ValeOfGlamorganCouncilLogo

Trwyddedu HMO ym Mro Morgannwg

Mae’r gyfraith yn datgan bod angen trwyddedu mathau penodol o dai rhent er mwyn cydymffurfio â safonau sy’n golygu bod tŷ yn ddiogel i breswylwyr fyw ynddo.

Er mwyn i ni brosesu’ch cais, rhaid gwneud cais dilys. Mae rhestr wirio yn y ffurflen gais berthnasol benodol i’r ardal sy’n dweud pa waith papur ategol sydd angen ei gyflwyno.

Ar dderbyn cais dilys, bydd swyddog yn cysylltu â chi i drefnu archwilio’r eiddo drwyddedadwy. Os bydd yr archwiliad yn foddhaol, rhoir trwydded ddrafft ar gyfer eich sylwadau, ac yna Trwydded Gyflawn sy’n ddilys am 5 mlynedd.

Ffioedd

Bydd ffi drwyddedu HMO yn ariannol hunangynhaliol, bydd y ffioedd isod yn berthnasol:

Trwydded HMO Gorfodol: £716

Trwydded HMO Gorfodol (adnewyddiad): £593

 

Gwneud cais

Er mwyn gwneud cais ar gyfer Trwydded HMO, llenwch Ffurflen Gais am Drwydded HMO a’i hanfon at:

  • Y Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU

 

Cofrestr cyhoeddus o TAB a drwyddedir ym Mro Morgannwg

Yn ôl Deddf Tai 2004, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr gyhoeddus o adeiladau a drwyddedir fel Tai Amlbreswyl. Dyma fersiwn cryno y gofrestr, yn benodol ar gyfer y wê yn dilyn cyfarwyddiaeth cenhedlaethol ar sut i gyhoeddi y wybodaeth.