Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Trwyddedu HMO

Bwriad Deddf Tai 2004 ydy codi safonau ar gyfer tenantiaid yn y sector rhentu preifat.

Terraced-Houses

Cyflwynodd y ddeddfwriaeth nifer o fesurau sy’n effeithio ar y sector rhentu preifat, yn enwedig trwyddedu Cartrefi â Phreswylwyr Lluosol (Houses in Multiple Occupation, neu HMOs).

Mae’r gyfraith yn datgan bod angen trwyddedu mathau penodol o dai rhent er mwyn iddynt gydymffurfio â safonau sy’n sicrhau bod y tŷ yn ddiogel i’r preswylwyr a bod y landlord yn gymwysedig ac yn addas i’w reoli.

Mae trwyddedu HMO datgan beth ydy gofynion diogelwch tân ac yn pennu safonau ar gyfer adnoddau cegin ac ystafell ymolchi. Bydd yn gosod uchafswm i nifer y preswylwyr ac yn rheoli safonau rheolaeth wrth fynd ymlaen.

Yn ogystal, bydd Cynlluniau Trwyddedu Ychwanegol yn Cathays a Phlasnewydd yng Nghaerdydd yn ceisio mynd i’r afael â materion cymunedol ehangach fel gwastraff, ymddygiad anghymdeithasol, effeithlonrwydd ynni a diogelwch cartrefi.

 

Cwestiynau cyffredin

Beth ydy HMO ac a oes rhaid i bob HMO fod wedi’i drwyddedu?

Mae HMO (Cartref â Phreswylwyr Lluosol) yn adeilad, neu’n rhan o adeilad, lle mae:

  • mwy na dau unigolyn yn byw nad sy’n ffurfio un aelwyd, a
  • dyma ydy prif gartref neu unig gartref o leiaf un o’r preswylwyr, ac
  • mae rhent yn daladwy gan o leiaf un o’r preswylwyr, ac
  • mae dau neu fwy o aelwydydd yn rhannu adnoddau sylfaenol.

Nid ydy blociau fflatiau pwrpasol neu fflatiau hunan-gynaliadwy yn HMOs, ond gall tai neu adeiladau sy wedi cael eu trosi’n floc o fflatiau fod yn HMO ar yr amod:

  • nad ydy safon y trosiad yn cydymffurfio â Rheolau Adeiladu 1991; a
  • bod llai na dwy ran o dair o’r fflatiau’n perthyn i berchnogion sy’n preswylio ynddynt.

Er bod Deddf Tai 2004 yn gofyn am drwyddedu mathau penodol o HMO (trwyddedu gorfodol – gweler isod), nid oes angen trwyddedu pod HMO. Ond pan nad oes angen trwydded ar HMO, mae’n dal i fod rhaid iddyn nhw gydymffurfio â gofynion penodol o ran diogelwch tân, adnoddau a rheolaeth gyffredinol. Pan fo ardal Trwyddedu Ychwanegol yn cael ei phennu, gall y Cyngor benderfynu pa fath o HMO sy’n cael ei gynnwys yn y cynllun. Gall y Cyngor gynghori landlordiaid a thenantiaid ar y gofynion. Ffoniwch 035 … am wybodaeth bellach.

Oes angen i mi wneud cais am Drwydded HMO?
  • Os oes o leiaf 3 llawr yn eich HMO, a bod pump neu fwy o breswylwyr ynddo sy’n cynnwys o leiaf dwy aelwyd, ac mae wedi ei leoli o fewn dalgylch Caerdydd, Bro Morgannwg neu Ben-y-bont ar Ogwr, mae Trwydded HMO yn Orfodol
  • Os ydych chi’n berchen ar, neu’n rheoli, HMO o unrhyw fath neu faint yn ardal Cathays neu Blasnewydd yng Nghaerdydd nad sy’n rhaid cael trwydded orfodol, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded HMO Ychwanegol. Yn yr un modd, os ydych chi’n berchen ar, neu’n rheoli, HMO nad sy’n rhaid cael trwydded orfodol yn Ardal Adnewyddu Castleland ym Mro Morgannwg, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Ychwanegol.
  • Ar hyn o bryd, nid oes ardaloedd lle ceir trwyddedu dewisol.
  • Os oes gennych amheuon a oes angen trwydded ar eiddo sy’n perthyn i chi, cysylltwch â’r Cyngor ar 035 …
Pa safonau mae’r trwyddedu’n mynd i’r afael â nhw?

Mae trwyddedu’n ystyried amrywiaeth o faterion, o safon yr eiddo i reolaeth yr eiddo, ymddygiad anghymdeithasol a diogelwch. Mae amodau trwydded yn cynnwys ystod eang o faterion, yn eu plith, diogelwch tân ac adnoddau. Mae’r ddau beth yma hefyd yn destun gofynion safonau penodol - gweler y dolenni isod am wybodaeth bellach.

Yn ogystal ag amodau’r drwydded, a roir fel rhan o bob trwydded HMO, mae’r Cyngor hefyd yn talu sylw i faterion iechyd a diogelwch o fewn HMOs gyda golwg ar y System Cyfraddau Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS). Y system hon a ddefnyddir gan y llywodraeth i asesu risgiau posibl i iechyd yn sgil amodau tai. 

Caiff 29 categori o berygl mewn tai eu hasesu o dan y system hon. Rhoddir pwysiad i bob perygl, a fydd yn help wrth benderfynu ar gyfradd y tŷ fel categori 1 (difrifol) neu gategori 2 peryglon (eraill).

Yn gyffredinol, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod safonau tai’n cael eu cynnal ac nad oes risg i breswylwyr oherwydd peryglon iechyd a diogelwch yn eu cartrefi.

Yn dilyn asesu eiddo, bydd gweithredu addas yn digwydd i sicrhau bod landlordiaid yn mynd i’r afael ag unrhyw beryglon a gafodd eu hamlygu.

Guidance

 

Apelio

Gallwch apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad a wneir i drwyddedu neu beidio â thrwyddedu eich eiddo. Apeliwch yn ysgrifenedig at:

Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru
Oak House
Cleppa Park
Celtic Springs
Casnewydd
NP10 8BD
 

Ffôn: 03000 252 777
Ebost: rpt@gov.wales 
Ffacs: 03000 256 146