Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gwerthiant o Dan Oed a Nwyddau â Chyfyngiadau Oedran

Gosodir cyfyngiadau oedran ar ystod eang o nwyddau defnyddwyr ar sail iechyd a diogelwch, i sicrhau na chânt eu gwerthu ond i ddefnyddwyr sy’n ddigon hen i’w prynu.

Alcohol BottlesMae’r rhain yn cynnwys: tybaco, alcohol, fideos, cyllyll a thân gwyllt, gan y gallai pob un achosi niwed i iechyd a diogelwch y defnyddiwr. Nod y ddeddfwriaeth hon ydy amddiffyn pobl ifanc rhag anafiadau corfforol neu feddyliol y gall cael gafael yn y nwyddau hyn eu hachosi.

Y Gwasanaeth Safonau Masnach sy’n gyfrifol am orfodaeth gwerthiant o dan oed. Gwneir hyn drwy addysgu masnachwyr, cynllun archwiliadau a phryniant prawf gan wirfoddolwyr o dan oed o dan amgylchiadau wedi’u rheoli.

NwyddauIsafswm
Oed Prynu
Alcohol  18 mlwydd oed
Sigaréts a Thybaco  18 mlwydd oed
Ail-lenwadau Tanwyr Sigaréts Bwtan  18 mlwydd oed
Toddyddion  18 mlwydd oed
Tân Gwyllt  18 mlwydd oed
Cylchgronau Oedolion  18 mlwydd oed
Tatŵio  18 mlwydd oed
Bwyeill a Chroesfŵau  18 mlwydd oed
Gynnau aer a Pheledi  18 mlwydd oed
Cylchgronau Oedolion  18 mlwydd oed
DVDs a rhai Gemau Cyfrifiadur 12, 15 a 18 mlwydd oed
Anifeiliaid Anwes 16 years 
Tocynnau Lotri  16 mlwydd oed
Cardiau Crafu  16 mlwydd oed
Petrol  16 mlwydd oed
Cynwysyddion Paent Erosol  16 mlwydd oed
Popwyr Parti a Chaps  16 mlwydd oed


Shared Regulatory Services is committed to reducing the sale of age restricted products, and does this by offering advice and guidance to businesses, investigating complaints, and by conducting test purchase exercises with young volunteers in order to assess the level of compliance, in partnership with the Police.

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi ymrwymo i ostwng lefel gwerthiant nwyddau â chyfyngiadau oedran. Mae’n gwneud hyn drwy gynnig cyngor ac arweiniad i fusnesau, archwilio cwynion, a chynnal ymarferion profion prawf gyda gwirfoddolwyr ifanc, mewn partneriaeth â’r heddlu, i asesu lefel cydymffurfiaeth.

Dweud wrthon ni: Gwerthiant o Dan Oed a Nwyddau â Chyfyngiadau Oedran

Os ydych chi’n credu bod gwerthiant o dan oed yn digwydd, gallwch chi ddweud wrthon ni ar unwaith ac yn ddienw. Pan fyddwch chi’n rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i ni (h.y. enw’r siop, y lleoliad, pryd y gwerthwyd y nwyddau etc.), bydd yn cael ei throsglwyddo i’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

Gallwch chi ddweud wrthon ni ar-lein ar wefan Cyngor i Bawb hefyd, neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r Gwasanaeth Cyngor Defnyddwyr:

0808 223 1144

Adrodd Ar-lein

Cyfle i Wirfoddoli

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn chwilio am wirfoddolwyr i’w helpu â phryniant prawf nwyddau â chyfyngiadau oedran fel sigaréts, alcohol a thân gwyllt, sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.

Dylai’r gwirfoddolwyr fod rhwng 14 ac 16½ oed, a byddan nhw’n derbyn tystysgrif cyrhaeddiad am eu cymorth.

Bydd hyn yn gaffaeliad pwysig i’r sawl sy’n ystyried gyrfa mewn ‘gorfodaeth’, boed hynny gyda’r heddlu neu asiantaeth arall.

Gall hefyd gyfrif fel ‘gwasanaeth cymunedol’ i’r sawl sy’n ceisio am wobrwyon Dug Caeredin a chynlluniau tebyg, ac fel tystiolaeth o sgiliau allweddol mewn ceisiadau am swyddi ac ar ffurflenni mynediad prifysgol.

Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ar beth i’w ddweud a’i wneud, a bydd yr ymarferion yn cael eu goruchwylio gan swyddog yr heddlu bob amser.

Os gwyddoch chi am rywun a hoffai gymryd rhan yn y profion yn y dyfodol, neu os hoffech wybod mwy am y cynllun, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

Cyngor ac Arweiniad

Cydymaith Busnes Safonau Masnach: mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth i fusnesau ac unigolion ar nwyddau â chyfyngiad oedran a gwerthiant nwyddau o dan oed ar-lein.