Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Ansawdd yr Aer a Llygredd

Rheoli ansawdd yr aer, rheoleiddio allyriadau diwydiannol ac archwilio cwynion am lygru’r aer ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Yn ôl Deddf yr Amgylchedd 1995 mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol adolygu ansawdd yr aer yn eu dalgylch yn achlysurol. Mae proses adolygu ac asesu ansawdd yr aer yn un o gonglfeini system reoli ansawdd yr aer yn lleol.

Rhaid cynhyrchu adroddiad yn flynyddol, gan asesu data’r blynyddoedd blaenorol a pha weithredu sy’n angenrheidiol. Cyflwynir yr adroddiadau hyn i Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt gael eu hadolygu a’u cymeradwyo.

Os ydy lefelau llygredd yn uwch na’r nod cenedlaethol, yna mae gofyn i’r awdurdod lleol ddatgan Ardal Rheoli Ansawdd yr Aer a pharatoi cynllun gweithredu gyda’r bwriad o gyrraedd Nod y Llywodraeth.

Bonfire

Ymhlith achosion mwyaf cyffredin llygredd yr aer, mae:

  • Mwg a lludw o goelcerthi
  • Nwy tywyll o safleoedd masnachol neu ddiwydiannol
  • Arogleuon coginio o fwytai
  • Llwch o waith adeiladu

Noder: Mae’n drosedd allyrru mwg du neu dywyll o dân ar safleoedd masnachol neu ddiwydiannol. Mae hefyd yn drosedd allyrru mwg du neu dywyll o unrhyw fath o simnai.

Adrodd Achos o Lygredd yr Aer

Gallwch chi roi gwybodaeth am achosion o lygredd yr aer ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

Pan fydd cwyn yn cael ei wneud, bydd swyddog yn cysylltu â chi er mwyn casglu gwybodaeth bellach. Os oes angen, bydd yn ymweld â’r sawl sy’n gyfrifol am y broblem, neu gall swyddogion ysgrifennu at ddeiliad y cyfeiriad i gynnig cyngor perthnasol iddo.

Trwyddedu Amgylcheddol

Os ydy cwmni’n dymuno gweithredu prosesau a allai achosi allyriadau i’r tir, i’r aer neu i ddŵr, rhaid iddynt wneud cais am Drwydded Amgylcheddol, naill ai gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu’r Cyngor lleol (yn ddibynnol ar y math o broses). Yr enw ar y math hwn o weithgareddau ydy ‘adnoddau rheoledig’.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio’r diwydiannau sydd â’r posibilrwydd uchaf o achosi llygredd i’r tir, yr aer neu ddŵr.

Ewch i dudalen Trwyddedau Amgylcheddol y GRhR.

 


Canllawiau