Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Rhentu Doeth Cymru

Mae Rhentu Doeth Cymru'n gynllun newydd a fydd yn gwella safonau yn y sector rhentu preifat trwy ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ac asiantau rheolaethol i gynnal hyfforddiant i sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau.   

Bydd hyn yn helpu: 

  • Rhwystro landlordiaid ac asiantau twyllodrus, a hyd yn oed troseddol, rhag bod yn rhan o reoli a rhentu tai.
  • Amddiffyn tenantiaid ac yn cefnogi landlordiaid ac asiantau da trwy eu helpu i fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau cyfreithiol, gan godi enw da'r sector.
rentsmart

Lansiwyd gwaith i orfodi’r Ddeddf ar 23 Tachwedd 2016, ac anogir y rheiny sydd heb gydymffurfio â'r gyfraith eto i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol i gofrestru cyn gynted â phosibl oherwydd bod y broses gofrestru ar-lein yn syml ac ond yn cymryd 15 munud, ond gall cais trwyddedu gymryd hyd at wyth wythnos i’w brosesu.

Am fwy o wybodaeth am drwyddedu a chofrestru, cliciwch yma

Mae ein fideo byr ar Rhentu Doeth Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth am y cynllun.