Archwiliadau diogelwch bwyd arferol i ailddechrau ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a'r Fro
Gyda chodi cyfyngiadau yn raddol ac ailagor busnesau bwyd, bydd
swyddogion diogelwch bwyd yn dechrau archwiliadau bwyd arferol eto.
Ebrill 21ain, 2021
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae llawer o swyddogion bwyd wedi bod yn defnyddio eu sgiliau a'u harbenigedd i helpu i atal lledaeniad Covid-19.
Mewn ymdrech ar y cyd i fynd i’r afael â’r nifer fawr o fusnesau sy’n hwyr mewn archwiliad bwyd, mae cynllun peilot yn cael ei dreialu ym mis Mai i ymweld a chynnig cefnogaeth i fusnesau bwyd yn enwedig y rhai sydd wedi bod ar gau ers cryn amser.
Y tair ardal gychwynnol yr ymwelir â nhw fydd canolfannau'r Barri, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Y gobaith yw y bydd y dull hwn yn cynnig hwb i hyder cwsmeriaid mewn diogelwch a safonau bwyd ac yn sicrhau bod pob busnes newydd yn cael sgôr hylendid bwyd cyfoes.
Dywedodd Dave Holland, Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
“Mae'r cyhoedd yn awyddus i fynd yn ôl i gwrdd â ffrindiau mewn caffis a bwytai wrth i ni geisio dod yn ôl i normal. Rydym yn gwybod bod busnesau lleol yn ysu am roi'r misoedd anodd hyn y tu ôl iddynt. Yn syml, mae ein swyddogion eisiau sicrhau bod safonau hylendid yn cael eu cynnal a byddwn yn cynnig cyngor a chefnogaeth i sicrhau bod ailagor yn brofiad diogel a phleserus i bawb dan sylw.
”Er mwyn sicrhau bod eich busnes bwyd yn gallu derbyn sgôr hylendid bwyd da pan fyddwch chi'n ailagor eich drysau, darllenwch y rhestr wirio a ddarperir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae cyngor ychwanegol hefyd ar gael ar 0300 1236696 yn ystod oriau swyddfa neu trwy ein ffurflen we cysylltu â ni.