Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Dirwy i berchennog bwyty am fethu ag arddangos sgôr hylendid bwyd

Mae Blerdo Bros Limited a’i gyfarwyddwr Mr Sofoklis Christou yn gweithredu bwyty Colosseo ym Mhen-y-bont ar Ogwr a oedd wedi derbyn sgôr hylendid bwyd o ‘1’ ym mis Ionawr 2022

Rhagfyr 12, 2022

Datgelodd ymweliad gan swyddogion ym mis Mai 2022 fod y cwmni wedi methu ag arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd yn y lleoliadFood hygiene sticker a’r modd a ragnodwyd gan y ddeddfwriaeth. Yn ogystal yn ystod yr ymchwiliad fe wnaeth Mr Christou gamarwain swyddogion trwy honni bod y busnes wedi newid dwylo pan nad oedd wedi newid.

Cafodd yr achos ei restru gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar Ragfyr 9fed. Nid oedd Mr Christou yn bresennol ac nid oedd neb arall yno i gynrychioli'r cwmni.

Cafwyd y cwmni’n euog o ddwy drosedd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 am fethu ag arddangos y sticer a rhwystro’r swyddogion yn eu hymholiadau. Cafwyd Mr Christou yn euog o un drosedd o rwystro swyddogion.

Cafodd y cwmni ddirwy o gyfanswm o £1500, gorchymyn i dalu costau o £1277 a gordal llys o £150. Cafodd Mr Christou ddirwy o £750, gorchmynnwyd iddo dalu costau o £796 a gordal llys o £75.

Dywedodd Cadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y Cynghorydd Ruba Sivagnanam:

“Mae’r cynllun sgorio hylendid bwyd yn orfodol yng Nghymru. Mae'n caniatáu i aelodau'r cyhoedd benderfynu a ydyn nhw am fwyta mewn bwyty ar sail ei safonau hylendid bwyd. Mae methu ag arddangos y sgôr yn ffordd o gamarwain cwsmeriaid posibl, a dyna pam ei fod yn drosedd.

“Yn amlwg nid oedd Mr Christou eisiau i’r cyhoedd wybod bod angen gwelliannau hylendid mawr yn ei fwyty, ac mae hyn wedi arwain ato’n derbyn dirwy sylweddol am ei weithredoedd.”