Ydych chi wedi clywed am sgam y llygod mawr neu sgam y negesydd?
Mae GRhR yn cefnogi’r ymgyrch Ymwybyddiaeth o Sgamiau eleni trwy dynnu sylw at y llu o sgamiau y rhoddwyd gwybod amdanynt i ni gan breswylwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg dros y misoedd diwethaf.
Mehefin 20fed, 2019
Wedi’i chydlynu gan Cyngor ar Bopeth, nod yr ymgyrch yw creu rhwydwaith o ddefnyddwyr hyderus a gwyliadwrus sy’n gwybod beth i’w wneud pan fyddant yn dod ar draws sgâm. Cynhelir yr ymgyrch eleni rhwng 10 a 23 Mehefin.
Dyma ddetholiad o’r sgamiau mwyaf cyffredin yr adroddwyd amdanynt i ni eleni:
Sgam y Llygod Mawr
Some reg
theMae rhai preswylwyr wedi cael ymweliadau a galwadau ffôn gan sgamwyr yn dweud eu bod o iechyd yr amgylchedd neu’r Cyngor, gan esbonio wrthynt fod problem gyda llygod mawr yn eu cartref a gofyn am arian i ddatrys y broblem. SGAM yw hwn!
Sgam y Darparwr Gwasanaeth
Cafwyd adroddiadau am alwadau ffôn gan sgamwyr sy’n dweud eu bod o BT neu Talk Talk ac yn awgrymu bod y llinell ffôn neu’r rhyngrwyd ar fin cael ei thorri/ei dorri. Mae’r sgamwyr yn gofyn am daliad neu maent yn mynnu rheolaeth o gyfrifiadur y preswylydd sydd yn aml yn arwain at arian yn cael ei drosglwyddo i’r sgamiwr yn electronig.
Sgam y Negesydd
Mae hwn yn cynnwys galwad ffôn gan rywun sy’n honni ei fod o’r heddlu neu CThEM. Mae’r sgamwyr yn dweud wrth y preswylydd eu bod yn helpu’r heddlu gydag ymchwiliad neu fod ôl-ddyledion CThEM gan y preswylydd ac mae’n rhaid iddo dalu’r ddyled ar unwaith. Byddant yn gofyn i arian gael ei dynnu o fanc neu gymdeithas adeiladu a bydd negesydd yn casglu’r arian o’r tŷ.
Mae llawer o bobl yn gwybod bod y galwadau a’r ymweliadau hyn yn sgamiau ond gallan nhw fod yn hynod argyhoeddiadol. Ein cyngor ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn yw:
• peidiwch byth â gadael ymwelydd annisgwyl wrth eich drws i ddod i mewn i’ch cartref a pheidiwch â gadael eich drws blaen ar agor a heb oruchwyliaeth pan fo ymwelydd ar garreg eich drws
• peidiwch byth â phrynu nwyddau neu wasanaethau gan ymwelydd annisgwyl wrth eich drws
• Os ydych yn cael ymweliad neu alwad ffôn annisgwyl gan rywun sy’n honni ei fod o’r Cyngor neu sefydliad arall, peidiwch â thalu unrhyw arian na rhoi unrhyw fanylion personol (gan gynnwys eich rhif ffôn, eich manylion banc neu eich cyfrineiriau)
• Ffoniwch i wirio bod ymwelydd/galwr yn ddilys trwy ddefnyddio rhif ffôn o gyfeirlyfr ffôn (nid rhif mae’r ymwelydd/galwr yn ei roi i chi)
• Meddyliwch ddwywaith a gofynnwch am gyngor drwy ffonio Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 05
• Nod sgamwyr bob tro yw cael eich arian neu eich gwybodaeth bersonol – peidiwch â rhoi’r naill na’r llall iddynt!
• Mae sgamwyr yn argyhoeddiadol ac yn gyndyn iawn. Helpwch i amddiffyn eich ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion yn eu herbyn.
Yn ystod yr ymgyrch bythefnos, bydd GRhR yn cynnal hyfforddiant sgamiau i staff y Post Brenhinol yn y Barri ac i Dîm Diogelu Cyngor Caerdydd. Meddai’r Cyng. Eddie Williams, Cadeirydd y Cydbwyllgor Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:
“Mae’r rhan fwyaf o bobl y dyddiau hyn wedi cael eu targedu gan ryw fath o sgam , yn enwedig gyda chynifer ohonynt ar-lein. Ein blaenoriaeth gyda’r ymgyrch hon yw tynnu sylw ffrindiau, aelodau’r teulu a chymdogion y preswylwyr oedrannus neu agored i niwed hynny at y technegau sy’n cael eu defnyddio gan sgamwyr ar hyn o bryd.
“Mae twyllwyr yn defnyddio pob tric posibl i gael gafael yn eich arian, ond mae gweithio gyda phartneriaid allweddol megis yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a’r Post Brenhinol yn ein helpu i ledaenu’r neges yn bell fod sgamwyr ar waith ond gallwn ni eu hatal - gyda’n gilydd.”
I gael mwy o wybodaeth am Ymwybyddiaeth o Sgamiau, ewch i citizensadvice.org.uk/sa19, ac ar Twitter chwiliwch am #scamaware.