Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gofyn i'r cyhoedd a busnesau i roi gwybod am fridio cŵn yn anghyfreithlon

Siaradwch am fridio cŵn bach anghyfreithlon a rhowch wybod i Crimestoppers yn ddienwIllegal dog breeder

12th May, 2022

Mae trigolion a busnesau’n cael eu hannog i godi eu llais yn erbyn bridio cŵn bach yn anghyfreithlon a’i adrodd yn ddienw i Crimestoppers. 

Mae Safonau Masnach Cymru a’r elusen, Crimestoppers wedi cydweithio i ddarparu gwasanaeth sy’n galluogi aelodau’r cyhoedd i gyflwyno gwybodaeth werthfawr yn ddienw a all helpu i fynd i’r afael â bridio cŵn yn anghyfreithlon. 

Dyma’r mater diweddaraf y mae’r ddau sefydliad yn gweithio arno i annog aelodau’r cyhoedd i ddarparu gwybodaeth am bryderon posibl sydd ganddynt, yn gwbl ddienw.

Dywedodd Judith Parry, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: “Mae’n rhoi pleser mawr i ni weithio gyda Crimestoppers a rhoi ffordd i aelodau’r cyhoedd adrodd am y troseddau hyn yn ddienw. 

“Nid yw bridwyr cŵn didrwydded yn dilyn y rheolau ac ni fyddant yn desun archwiliadau lles gan yr Awdurdod Lleol. Adwaenir busnesau o’r fath fel Bridwyr neu Ffermwyr Cŵn Bach Anghyfreithlon. Mae hyn yn arwain at gŵn yn cael eu hecsbloetio gan gangiau troseddol i wneud, a gwyngalchu, arian.” 

Mae nifer o arwyddion i’w canfod o ran bridio cŵn bach yn anghyfreithlon: CS TSW press release image (002)

  • Gallant gadw eu cŵn bach mewn amodau ofnadwy
  • Efallai na fyddant yn sicrhau lles yr anifeiliaid
  • Gallant gael cŵn a chŵn bach sydd wedi’u cymdeithasoli’n wael
  • Efallai y byddant yn gorfridio o’u cŵn 

Os ydych yn amau neu’n bryderus am fridio cŵn yn anghyfreithlon yn eich ardal chi, yna dylech ei adrodd i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu edrych ar crimestoppers-uk.org a dweud wrthynt yr hyn yr ydych yn ei wybod. Fe fyddwch yn parhau’n gwbl ddienw. Bob tro. 

“Bydd eich gwybodaeth yn ein helpu ni i fynd i’r afael â bridio cŵn bach yn anghyfreithlon ac yn helpu i roi terfyn ar anifeiliaid yn dioddef mewn tawelwch,” dywedodd Judith Parry.