Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Dyn o Dresimwn wedi ei ddedfrydu i chwe mis arall am droseddau lles anifeiliaid

Mae dyn o Dresimwn wedi cael ei ddedfrydu i chwe mis o garchar am gam-drin ceffylau a chŵn a thorri gwaharddiad oes ar gadw anifeiliaid, a hynny yn dilyn erlyniad ar ran Cyngor Bro Morgannwg. 

30 Tachwedd 2022

Cymerodd Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sy'n gwneud gwaith o'r fath ar gyfer Awdurdodau Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd,price3 a’r Fro, achos yn erbyn Thomas Tony Price. 

Ym mis Ebrill y llynedd cafodd ddedfryd o chwe mis dan glo ar ôl ei gael yn euog ar 32 cyhuddiad o greulondeb anifeiliaid, yn ymwneud â defaid a cheffylau a'i atal yn barhaol rhag cadw anifeiliaid.

Darganfuwyd carcasau defaid ynghyd ag anifeiliaid yn dioddef effeithiau cynrhon a chlwyfau cysylltiedig, tra nad oedd cnu eraill wedi’u cneifio. Dan oruchwyliaeth filfeddygol bu'n rhaid difa'r gwaethaf o'r defaid.

Cafwyd hefyd fod Price yn cam-drin ceffylau, a oedd yn cael eu gorfodi i sefyll mewn llaid dwfn heb ddim dŵr na phorthiant.

Fe'u cadwyd mewn ardaloedd yn llawn peryglon megis metel miniog a weiren bigog, ac mewn rhai achosion mewn amodau gorlawn a mochynnaidd heb unman iddynt orwedd.Roedd nifer sylweddol o dan bwysau ac roedd gan eraill glwyfau hirsefydlog a achoswyd gan rygiau nad oeddent yn ffitio'n dda.

Ond mewn gwrandawiad diweddar yn Llys Ynadon Abertawe, cafodd Price ei anfon yn ôl i'r carchar am dorri'r gorchymyn hwnnw ar ôl pledio'n euog hefyd i 26 o droseddau'n ymwneud â lles anifeiliaid. 

Fe wnaeth ei fab 17 oed, Sam, hefyd gyfaddef 25 cyhuddiad, ac fe gafodd ei wahardd rhag cadw anifeiliaid, ar wahân i mewn amgylchiadau llym iawn, am gyfnod o bum mlynedd.

price1Cafodd Orchymyn Atgyfeirio am bedwar mis, sy'n golygu bod yn rhaid iddo gael cyswllt rheolaidd â'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. 

Daeth i'r amlwg fod Tom Price, yn dilyn ei euogfarn flaenorol, wedi trosglwyddo perchnogaeth ceffylau ac anifeiliaid eraill i'w fab, oedd ond yn 16 oed ar y pryd.

Roedd yr anifeiliaid dan sylw yn cael eu cadw ar safle yn Nhresimwn ac un arall yng Nghoety, Pen-y-bont ar Ogwr. Er gwaethaf ei anghymhwysiad, parhaodd Tom Price i fod yn rhan o'r ddau safle, a dderbyniodd nifer o ymweliadau gan swyddogion GRhR.

Cyflwynwyd cyfanswm o 71 o Rybuddion Gwella ar gyfer troseddau iechyd a lles anifeiliaid, yn ymwneud â phryderon ynghylch addasrwydd yr amgylchedd, gorlenwi, cyfyngu ar ymddygiadau arferol, methu cyflenwi dŵr a methu cyflenwi bwyd. 

Roedd y rhybuddion gwella yn ymwneud â cheffylau, cŵn, ac adar, ac yn cael eu hanwybyddu'n gyson. Cafodd Sam Price 14 diwrnod cyn y bydd ei anghymhwysiad yn dod i rym i wneud trefniadau ar gyfer yr anifeiliaid nad yw'n cael cadw mwyach.  
Wrth ei ddedfrydu, derbyniodd y Barnwr Rhanbarth ei fod o gymeriad glân, bod pwysau wedi ei roi arno ac roedd wedi cael ei drin gan ei dad.  

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol,  "Mae gan Tom Price hanes o gam-drin anifeiliaid ac rwy'n gobeithio bod y ddedfryd hon yn anfon neges na fydd esgeulustod a chreulondeb o'r fath yn cael ei oddef.  Bydd y Cyngor yn ymchwilio i achosion o'r fath ac os yw'n briodol yn erlyn y rhai sy'n gyfrifol i raddau llawn y gyfraith.

"Mae'r penderfyniad i roi dedfryd arall o garchar yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn, a’r diystyriad cyson sydd gan yr unigolyn hwn tuag at y gyfraith.

"Nid yn unig y mae arferion Price yn niweidio anifeiliaid, maent hefyd yn achosi problemau i'r cymunedau ehangach gan yr arferai adael i’w anifeiliaid grwydro neu bori'n anghyfreithlon ar dir nad oedd yn berchen arno.

"Mae'r euogfarn hon yn dilyn misoedd lawer o waith gofalus a hoffwn ddiolch i'r rhai a fu'n rhan o'u hymdrechion."