Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cyflenwadau yn dychwelyd i normal ar ôl byrstio prif gyflenwad dŵr yn Llanedern

Mae Dŵr Cymru wedi dweud bod prif bibell ddŵr wedi byrstioLlanedeyrn burst water pipe yn Llanedern, sy'n debygol o fod wedi effeithio ar y cyflenwad dŵr i lawer o eiddo yn yr ardal.

 

Yn dilyn y byrstio yn Llanedern yn gynharach ar Dachwedd 14eg, mae Dŵr Cymru wedi llwyddo i ad-drefnu’r rhwydwaith dŵr yn yr ardal fel bod cyflenwadau i gwsmeriaid yn ardaloedd CF23 a CF3 bellach yn dychwelyd.

Wrth i gyflenwadau ddychwelyd i normal, gall cwsmeriaid brofi naill ai pwysedd dŵr isel neu ddŵr afliwiedig. Nid yw hyn yn anarferol ar ôl byrstio o'r natur hwn a dylai glirio o fewn cyfnod byr.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y diweddariadau diweddaraf, cliciwch yma.

Dylid cyfeirio ymholiadau neu gwynion ynghylch yr amhariad ar y cyflenwad at Dŵr Cymru ar 0800 085 3968.

Dylid cyfeirio ymholiadau mewn perthynas â darparu dŵr yn barhaus i bobl agored i niwed neu a all busnes bwyd barhau i weithredu at Gyngor Bro Morgannwg ffôn: 0300 123 6696