Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Twyllwr rheibus yn dwyn arbedion bywyd menyw mewn sgam rheoli plâu cymhleth

Bydd twyllwr rheibus yn y carchar am 12 mis ychwanegol am godi mwy nag £20,000 ar ddau ddioddefwr oedrannus ac agored i niwed, mewn sgâm rheoli plâu cymhleth a fyddai fel arfer yn costio £48 i'w gywiro.

Medi 28ain, 2021

Dedfrydwyd Richard McCarthy, 28, o Laneirwg, Caerdydd, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, 24 Medi, yn dilyn pleRichard McCarthy Sep 2021 euog i ddwy drosedd o dwyll mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Medi 2020.

Mae McCarthy ar remand ar hyn o bryd ac yn cwblhau dedfryd o bedair blynedd a hanner am fyrgleriaeth, ond mae ei gyfnod yn y carchar wedi’i estyn am flwyddyn am y troseddau newydd. Clywodd y llys fod 'dwy fenyw oedrannus ac agored i niwed' wedi'u targedu yn y twyll, i drwsio pla llygod mawr honedig a ddyfeisiwyd yn llwyr gan McCarthy.

Targedodd y twyllwr y dioddefwr cyntaf, menyw 71 oed sy'n byw ar ei phen ei hun, ym mis Ionawr 2019 drwy guro ar ei drws yn esgus bod yn rhywun o'r enw 'Richard', gan gynnig trwsio teils to yn ei heiddo. Roedd hyn yn ddechrau i dwyll 8 diwrnod - lle cafodd cynilion bywyd o £11,400 y dioddefwr eu dwyn.Wrth weithio ar y teils to a dorrwyd, honnodd McCarthy ei fod wedi dadorchuddio pla llygod mawr yn llofft y dioddefwr ac esboniodd y gellid ei drin drwy 'chwistrellu'r llofft' am £2,600.

Dywedwyd wrth y dioddefwr y byddai cwmni rheoli plâu preifat yn codi rhwng £3,000 a £5,000 am y gwaith hwn. Cadarnhaodd Cyngor Caerdydd y byddai ond yn codi £48 i gael gwared ar y pla. Ar ôl 'chwistrellu' y llofft, parhaodd McCarthy wedyn i ymweld â'r dioddefwr bob dydd, i honni bod angen gwneud mwy o waith i drwsio'r pla llygod mawr, gan gynnwys:

  • Ail-chwistrellu’r llofft eto am £2,500
  • £2,300 arall i drwsio ffelt y to y honnodd i’r cnofilod gnoi trwyddo;
  • £2,000 am drydedd driniaeth i'r llofft; 
  • Ac wedyn taliad terfynol o £2,000 ar gyfer selio, i drwsio unrhyw ddifrod a achoswyd gan y llygod mawr. 

Gofynnwyd am y taliadau ar wahân a dilynwyd y dioddefwr i’r banc bob tro y cafodd taliad ei dalu. Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, dechreuodd y to ollwng, felly cysylltodd hi â 'Richard' i'w ddatrys, ond dywedwyd wrthi y byddai'n costio £1,500 pellach i orffen y gwaith. Ar y pwynt hwn, gwrthododd y pensiynwr dalu mwy.Mewn Asesiad o'r Effaith ar Ddioddefwyr a ddarllenwyd i'r llys, dywedodd y pensiynwr agored i niwed y byddai wedi rhoi ei chynilion bywyd i'w merch anabl. Dywedodd iddi ofyn am gael ei harian yn ôl ond gwrthodwyd hyn.

Dywedodd hefyd iddi gael ei gwneud i deimlo 'cywilydd' am y pla llygod mawr honedig, felly talodd hi’r arian.Aeth adran Rheoli Plâu Caerdydd i'r eiddo yn ystod yr ymchwiliad a chadarnhaodd, yn ei barn hi, na fu unrhyw weithgarwch cnofilod yn yr eiddo ac nad oedd dull o drin sy’n defnyddio chwistrellu i gael gwared ar lygod mawr.

Yn y dystiolaeth, eglurwyd mai dim ond £48 y byddai preswylydd o Gaerdydd yn gorfod ei dalu i ddelio â phroblem llygod mawr yn ei eiddo ac y byddai'r Cyngor yn mynd i’r eiddo hyd at bedair gwaith i ddelio â'r mater.Cadarnhaodd asesiad gan syrfëwr tai hefyd nad oedd unrhyw waith wedi'i wneud yn yr eiddo ac nad oedd y teils to gwreiddiol a nodwyd gan McCarthy wedi'u disodli. Rhwng 16 Ionawr a 6 Chwefror 2019, roedd McCarthy wedi ffonio'r dioddefwr 65 gwaith ac wedi anfon 44 o negeseuon testun iddi.

Ni roddwyd unrhyw fanylion, contract na gwaith papur ar gyfer y gwaith a ddigwyddodd yn ôl pob golwg. Yn yr ail achos a ddygwyd gerbron y llys, cafodd pensiynwr 69 oed alwadau digroeso yn ei chartref gan berson o'r enw 'Adam' yn honni ei fod yn swyddog iechyd yr amgylchedd, a dywedwyd wrthi fod ganddi bla llygod mawr yn ei gardd gefn.

Gadawodd y dioddefwr McCarthy a gweithiwr i mewn i'w gardd ac o fewn amser byr iawn gwaeddodd y gweithiwr, 'Dwi wedi dal un', gan chwifio llygoden fawr yn yr awyr. Gallai'r dioddefwr weld bod y llygoden fawr yr honnon nhw iddi ddod allan o'i draen yn gwbl sych, ond dywedodd McCarthy wrthi y byddai'n rhaid codi'r holl frics a sment yn ei gardd gefn i gael mynediad i'w draeniau. Dywedodd y dioddefwr wrth McCarthy nad oedd yn gwneud hynny, gan fod y draeniau yn yr eiddo yn rhedeg o'r cefn o dan y tŷ i flaen yr eiddo. 

Esboniodd McCarthy y byddai'n dychwelyd y diwrnod canlynol i wneud y gwaith ond ni roddodd ddyfynbris. Y diwrnod canlynol daeth i’r eiddo gyda gweithiwr ac arhosodd am awr a hanner yn yr ardd gefn cyn gadael.Y diwrnod canlynol ar 15 Ionawr 2019, dechreuodd y dioddefwr dderbyn galwadau ffôn o 9am ymlaen.

Pan oedd hi'n gallu ateb y ffôn, siaradodd â pherson o'r enw 'Jack' a ddywedodd wrthi y byddai rhywun yn mynd i'w heiddo y diwrnod canlynol i gasglu'r £2,000 a oedd yn ddyledus. Aeth i'r banc i dynnu'r arian.O fis Ionawr hyd at fis Ebrill 2019, digwyddodd hyn ar wyth achlysur gwahanol a thalwyd cyfanswm o £10,400. Nid oedd unrhyw waith wedi'i wneud ac nid oedd contract na gwaith papur wedi'u rhoi. 

Ar ddiwedd mis Ebrill 2019, derbyniodd y dioddefwr alwad ffôn yn ei hysbysu bod y gwaith a oedd wedi digwydd yn ei heiddo wedi digwydd ar y stryd anghywir; ac y byddai'n derbyn tyniad banciwr o £15,000 ynghyd ag iawndal. I dderbyn yr arian hwn bu'n rhaid iddi dalu £1,500 yn ychwanegol ymlaen llaw ond eglurodd nad oedd ganddi fwy o arian i'w roi.

Ar 13 Mai, pan oedd yr heddlu yn eiddo'r dioddefwr, derbyniodd 15 galwad o fewn 45 munud yn gofyn iddi a oedd wedi dod o hyd i’r arian pellach eto. Yna cyfwelwyd â Richard McCarthy yng Ngharchar y Parc ar 18 Chwefror 2020 ond dywedwyd ‘dim sylw’ wrth ateb pob cwestiwn a ofynnwyd iddo. Eglurodd y Bargyfreithiwr Amddiffyn, Kevin Seale, a oedd yn gweithredu ar ran Mr McCarthy fod ei gleient wedi profi newidiadau eithafol yn ei amgylchiadau personol ers i'r troseddu ddigwydd, gan fod ei chwaer a'i nain wedi marw ers iddo fod yn y carchar.Wrth liniaru, honnwyd bod pobl uwch i fyny’r gadwyn awdurdod sy’n gysylltiedig â'r materion hyn ac nad oedd ei gleient wedi elwa'n ariannol o'r troseddu ac nad oedd yn byw ffordd o fyw moethus.

Ar ôl iddo gael ei ryddhau, honnwyd y byddai'n dychwelyd i'w deulu, gan na chafodd ei 'fagu fel hyn' a'i fod yn ymddiheuro i'r holl bobl gysylltiedig.Crynhodd Ei Anrhydedd, y Cofiadur IWL Jones, yr achos drwy ddweud, "Gwnaethoch fanteisio ar ddwy fenyw oedrannus ac agored i niwed ac mae'r rhain yn droseddau difrifol a gwael."Gofynnwyd i'ch dioddefwyr dros gyfnod hir o amser am arian ar gyfer gwaith nad oedd wedi'i wneud ac fe'u gwnaed i deimlo'n ofnus.Gwnaethoch ofyn yn gyson am fwy a mwy o arian, gan fanteisio ar yr hen fenywod agored i niwed hyn. Cawsoch effaith sylweddol ar eich dioddefwyr ac nid oes unrhyw arian wedi'i ail-dalu o gwbl. Mae'n rhaid cyflwyno neges glir iawn na fyddwn yn goddef yr ymddygiad rheibus hwn."

Clywodd y llys fod Richard McCarthy yn droseddwr cyson iawn a ddechreuodd droseddu yn 2012. Ers hynny mae McCarthy wedi cael ei gyhuddo o amrywiaeth o droseddau gan gynnwys cynrychiolaeth ffug, cynllwyn, difrod troseddol, trais, byrgleriaeth a stelcian.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sef yr Awdurdod Erlyn yn yr achos hwn:

"Pobl sy'n targedu pobl oedrannus sy'n agored i niwed ac yn eu twyllo drwy ddwyn eu cynilion bywyd yw'r isaf o'r isel rai."Mae hyn yn ymddygiad diegwyddor, ffiaidd ac ofnadwy. Mae cofnod troseddol Richard McCarthy yn dweud cyfrolau, a gobeithio bod y manylion a roddwyd i’w amddiffyn yn wir, fel nad oes rhaid i ni ddelio ag ef eto. Bellach mae ganddo ychydig mwy o amser yn y carchar i fyfyrio ar ei droseddau."