Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cyngor yn lansio Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ar gyfer Stryd y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Ar Dydd Llun 5 Medi 2022, lawnsiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Gweithredu Ansawdd Aer Drafft ar gyfer Stryd y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dydd Llun 05 Medi 2022

Mae'r ymgynghoriad yn dilyn argymhelliad o Adroddiad Cynnydd Blynyddol y cyngor yn 2018 i weithredu a chodi Gorchymyn ar gyferBridgend Civic Offices Ardal Rheoli Ansawdd Aer penodedig i Stryd y Parc. Canfu setiau data a adroddwyd yn 2017 fod dau leoliad monitro nitrogen deuocsid (NO2) nad ydynt yn awtomataidd, sydd wedi'u lleoli ar Stryd y Parc, wedi cofnodi lefelau uwch, a oedd yn uwch na'r cyfartaledd blynyddol.

Gweithredwyd Gorchymyn Ardal Rheoli Ansawdd Aer Stryd y Parc yn swyddogol ar 1 Ionawr 2019, a bydd y datganiad hwn yn sicrhau y bydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud mewn perthynas ag ansawdd aer yn y dyfodol, yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a bod y cyngor yn bodloni'r pum ffordd o weithio, fel yr amlinellwyd isod:

  1. Hirdymor – bydd y Cynllun Gweithredu yn cydbwyso anghenion tymor byr gwella ansawdd aer, yn ogystal ag ystyried mesurau i ddiogelu'r gallu i fodloni anghenion hirdymor.
  2. Atal – drwy weithredu mesurau a fydd wedi'u nodi yn y Cynllun Gweithredu, dylai'r cyngor sicrhau gwelliannau mewn perthynas ag ansawdd aer, yn ogystal ag atal yr ansawdd aer rhag gwaethygu yn y dyfodol.
  3. Integreiddio – bydd Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn ceisio sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei gynnal fel rhan o'r Cynllun Gweithredu yn integreiddio amcanion llesiant amgylcheddol cyrff cyhoeddus.
  4. Cydweithio – bydd y Cynllun Gweithredu'n cael ei ddatblygu ar y cyd â sawl adran arall o fewn y cyngor a sefydliadau allanol eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  5. Cyfranogiad – bydd y Cynllun Gweithredu yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, a bydd yn sicrhau bod unigolion sydd â diddordeb brwd dros wella ansawdd aer yn chwarae rhan lawn ac yn sicrhau y bydd eu barn yn cael ei chlywed.

Bydd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn cynnwys adolygu mesurau gwahanol y mae'r cyngor yn cynnig ddylai fod yn ganolbwynt sylw er mwyn gwella ansawdd aer o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer Stryd y Parc, sydd wedi'u blaenoriaethu am y tro. Yn ogystal â hyn, gofynnir i drigolion ac aelodau o'r cyhoedd pa fesurau y bydden nhw'n eu hystyried yn bersonol er mwyn gwella ansawdd aer.

Mae'r ymgynghoriad bellach yn fyw, a bydd yn dod i ben ddydd Llun 21 Tachwedd 2022.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, neu, os na allwch chi gael mynediad at ein gwefan, gallwch ofyn am yr ymgynghoriad ar ffurfiau amgen.

I ofyn am yr ymgynghoriad ar ffurfiau amgen, cysylltwch â'r tîm Ymgynghori drwy e-bost: consultation@bridgend.gov.uk, ffôn: 01656 643664 neu anfonwch neges destun: 18001 01656 643664.