Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Rhybudd i ddefnyddwyr am sgamiau cŵn bach ar-lein

Cynghorir defnyddwyr i fod yn ofalus wrth ystyried prynu ci bach neu gi sy'n cael ei hysbysebu ar wefannau amrywiol

Yn ddiweddar rydym wedi bod yn derbyn cwynion gan breswylwyr anfodlon ar ôl i daliadau gael eu gwneud am gŵn a chŵn bach naPuppies chawsant eu derbyn erioed. Mae'r thema gyffredin yn cynnwys hysbysebu ci ar wefan ac yna mae'r defnyddiwr yn cytuno i brynu gan yr unigolyn sy'n honni ei fod yn gwerthu'r ci. Mae'r gwerthwr yn gofyn am naill ai blaendal neu bris llawn y ci, trwy drosglwyddiad banc.

Yn aml, bydd y gwerthwr yn dechrau cyfathrebu â'r prynwr y tu allan i sianeli cyfathrebu'r wefan (trwy neges destun neu e-bost) yna'n stopio cysylltu â'r prynwr unwaith y bydd y trosglwyddiad banc wedi'i wneud.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, gwnaed taliadau o £100, £250 a £750 i werthwyr ffug sy'n honni eu bod wedi'u lleoli yng Nghastell-nedd, Wakefield ac Iwerddon.

Dywedodd Cadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y Cynghorydd Eddie Williams: “Efallai bod rhai o’n preswylwyr wedi penderfynu prynu anifeiliaid anwes yn ystod y 'cyfnod clo' a gall hyn fod yn bryniant cyffrous i unigolyn neu deulu cyfan. Mae'n bwysig, fodd bynnag, bod darpar brynwyr cŵn yn gwneud eu hymchwil cyn prynu, ac yn meddwl yn ofalus iawn cyn trosglwyddo arian i gyfrif rhywun arall.

“Pan wneir trosglwyddiadau banc o’r math hwn, nid yw bob amser yn bosibl adennill y taliad trwy eich banc. Efallai y bydd yr arian yn cael ei golli am byth, felly rydym yn annog preswylwyr i feddwl yn ofalus iawn cyn trosglwyddo arian i rywun nad ydych chi'n ei adnabod.”

Wrth ystyried prynu ci neu gi bach, rydym yn eich cynghori i ymweld â'r dolenni isod i gael cyngor ac arweiniad pwysig: