Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gwobr Lefel 2 Highfield mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle (RQF)

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i ddysgwyr o'r arferion iechyd a diogelwch sylfaenol sy'n hanfodol yn y gweithle. Mae'n rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o fuddion iechyd a diogelwch da, camau i asesu risg a sut i leihau damweiniau, damweiniau agos a salwch ac ymdrin ag argyfyngau.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi gyflawni'r cymhwyster hwn?

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys cwrs hyfforddi undydd yn yr ystafell ddosbarth.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i gyflawni'r cymhwyster hwn?

Nid oes unrhyw ragofynion pwnc-benodol ac mae'r cymhwyster yn addas ar gyfer dysgwyr 14+ oed. Argymkhellir bod gan ddysgwyr Wet Floor Kitchensy'n ymgymryd â'r cymhwyster o leiaf Lefel 1 mewn Saesneg a mathemateg neu gyfwerth. Os ydych chi'n ansicr, cysylltwch â ni i drafod gofynion y cwrs cyn archebu'ch lle.

Sut mae'r cymhwyster yn cael ei asesu?

Asesir y cymhwyster hwn gan bapur arholiad amlddewis 20 cwestiwn diwedd cwrs. Y marc pasio ar gyfer y papur yw 12 allan o 20 cwestiwn yn gywir (60%).

Beth nesaf?

Efallai y bydd unigolion sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn am symud ymlaen i gymwysterau eraill sy'n gysylltiedig ag Iechyd a Diogelwch, megis Gwobr Lefel 3 Highfield mewn Iechyd a Diogelwch yn y gweithle (RQF). Gweler y tudalennau hyfforddi ar ein gwefan i gael manylion y cyrsiau hyn a chyrsiau eraill a gynigiwn.

Ble gellir dilyn y cwrs hwn?

Rydym yn cyflwyno'r cwrs hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Dyffryn Morgannwg. Gweler ein gwefan am yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ein lleoliadau hyfforddi a dyddiadau ein cyrsiau.

Cost?

Cost y cwrs hyfforddi hwn yw £75.

Dyddiadau ein cyrsiau nesaf

Bydd dyddiad ein cwrs nesaf yn cael ei gadarnhau yn fuan.

Sut ydw i'n archebu fy lle?

Gallwch lawrlwytho ffurflen archebu'r cwrs o'n gwefan a'i anfon ar e-bost atom. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod a byddwn yn hapus i helpu.

 

  • 0300 123 6696

 

  • training-srswales@valeofglamorgan.gov.uk

 

  • Cyfeiriad Post: Mair Thomas, Gweinyddwr Hyfforddiant, Ystafell 116, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW