Gwobr Lefel 2 Highfield mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle (RQF)
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i ddysgwyr o'r arferion iechyd a diogelwch sylfaenol sy'n hanfodol yn y gweithle. Mae'n rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o fuddion iechyd a diogelwch da, camau i asesu risg a sut i leihau damweiniau, damweiniau agos a salwch ac ymdrin ag argyfyngau.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi gyflawni'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys cwrs hyfforddi undydd yn yr ystafell ddosbarth.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i gyflawni'r cymhwyster hwn?
Nid oes unrhyw ragofynion pwnc-benodol ac mae'r cymhwyster yn addas ar gyfer dysgwyr 14+ oed. Argymkhellir bod gan ddysgwyr Wet Floor Kitchensy'n ymgymryd â'r cymhwyster o leiaf Lefel 1 mewn Saesneg a mathemateg neu gyfwerth. Os ydych chi'n ansicr, cysylltwch â ni i drafod gofynion y cwrs cyn archebu'ch lle.
Sut mae'r cymhwyster yn cael ei asesu?
Asesir y cymhwyster hwn gan bapur arholiad amlddewis 20 cwestiwn diwedd cwrs. Y marc pasio ar gyfer y papur yw 12 allan o 20 cwestiwn yn gywir (60%).
Beth nesaf?
Efallai y bydd unigolion sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn am symud ymlaen i gymwysterau eraill sy'n gysylltiedig ag Iechyd a Diogelwch, megis Gwobr Lefel 3 Highfield mewn Iechyd a Diogelwch yn y gweithle (RQF). Gweler y tudalennau hyfforddi ar ein gwefan i gael manylion y cyrsiau hyn a chyrsiau eraill a gynigiwn.
Ble gellir dilyn y cwrs hwn?
Rydym yn cyflwyno'r cwrs hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Dyffryn Morgannwg. Gweler ein gwefan am yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ein lleoliadau hyfforddi a dyddiadau ein cyrsiau.
Cost?
Cost y cwrs hyfforddi hwn yw £60
Dyddiadau ein cyrsiau nesaf
Bydd ein cwrs nesaf yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar Hydref 4ydd, 2022.
Sut ydw i'n archebu fy lle?
Gallwch lawrlwytho ffurflen archebu'r cwrs o'n gwefan a'i anfon ar e-bost atom. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod a byddwn yn hapus i helpu.
-
training-srswales@valeofglamorgan.gov.uk
-
Cyfeiriad Post: Mair Thomas, Gweinyddwr Hyfforddiant, Ystafell 116, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW