Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Prynwch â Hyder

Cynllun annibynnol cenedlaethol yw Prynwch â Hyder - ‘Buy with Confidence’ - sy’n dangos i gwsmeriaid bod cwmni yn agored, yn onest, yn gweithredu o fewn cyfraith fasnachol ac yn gwasanaethu cwsmeriaid yn dda.

bwc-logo-2017-welsh-750px

Mae’r holl fusnesau ar gofrestr Prynwch â Hyder wedi eu harchwilio’n fanwl a’u cymeradwyo gan Swyddogion Safonau Masnach i sicrhau eu bod yn gweithredu mewn modd cyfreithiol, gonest a theg.  

Mae’r busnesau hyn yn parhau i gael eu monitro i helpu i sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth o ansawdd, ac i gynnal cywirdeb y cynllun.  Mae gennych dawelwch meddwl hefyd y cewch gefnogaeth gan yr adran Safonau Masnach i wneud iawn am bethau os aiff rhywbeth o’i le sy’n annhebygol.

Manteision i Fusnesau

Bydd y cwmnïau sy’n ymuno â Prynwch â Hyder wedi cael eu hystyried fel rhai sy’n cynnig gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel iawn, ac yn gyfnewid am hynny bydd modd iddyn nhw gael cyngor arbenigol ar safonau masnach.

Caiff eich busnes ei restru ar wefan Prynwch â Hyder i gwsmeriaid posib ddod o hyd i chi, a chewch dystysgrif aelodaeth y gallwch arddangos yn eich safle. Cewch ddeunydd hyrwyddol i hysbysebu eich aelodaeth o’r cynllun.

Mae Prynwch â Hyder yn arbennig o ddefnyddiol i fusnesau y mae cwsmeriaid ond yn eu defnyddio o dro i dro, fel plymwyr neu drydanwyr, lle nad ydynt yn gwybod sut i ddewis rhwng masnachwyr sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, ond sydd am deimlo bod ganddynt hyder ynddynt.

Mae aelodaeth Prynwch â Hyder yn gyfle i bob busnes gael sylw amlwg, a’r hawl i ddweud eu bod ymhlith y GORAU o ran gwasanaeth i gwsmeriaid.

Ein aelodau lleol

NAC Property Clearance

N A C House Clearance logoCwmni clirio tŷ a swyddfa proffesiynol â thrwydded ac yswiriant llawn ar gyfer De Cymru. Mae’r busnes yn arbenigo mewn gwasanaethau clirio tai, fflatiau a swyddfeydd di-straen, unrhyw le o Gasnewydd, Abertawe, a Chaerdydd i Flaenau’r Cymoedd, Bro Morgannwg, Llanelli, a Phenrhyn Gŵyr.

Mae'r busnes yn cael ei redeg o Borthcawl gan Mark Parry, sy'n dweud: "Nid ydym yn honni mai hwn yw'r gwasanaeth clirio tai a swyddfa mwyaf proffesiynol, effeithlon a dibynadwy ar gyfer ardal De Cymru ond byddwn yn rhoi cynnig arni. gwybod nad dim ond mater o gael yr offer cywir a bod yn dda yn y swydd yw hyn, mae hefyd yn ymwneud â pharchu a thrin ein cwsmeriaid yn iawn.”

 

Access Training (Wales) Limited

Access Training logoMae Access Training (Wales) Limited yn darparu ystod gynhwysfawr o gyrsiau achrededig ar gyfer unigolion sydd am ddod yn grefftwyr proffesiynol, gan gynnwys gosodwyr ceginau, peirianwyr Gas Safe a thrydanwyr medrus. Gyda’i brif swyddfa yn Ystâd Ddiwydiannol Llandochau Fach ym Mro Morgannwg mae gan y cwmni gysylltiadau cryf o fewn y diwydiant sy’n rhoi cyfle i’w gleientiaid wneud y mwyaf o’u buddsoddiad.
 

Sut i ymuno 

buywithconfidence.gov.uk

Gall busnesau sydd wedi bod yn masnachu am o leiaf chwe mis wneud cais i ymuno, a chânt eu harchwilio cyn cael eu derbyn. 

Bydd hyn yn cynnwys edrych ar ddull y cwmni o roi gwasanaeth i gwsmeriaid, sicrhau ei fod yn gweithredu o fewn cyfraith defnyddwyr, bod ganddo’r yswiriant priodol ac nad yw’n ffonio pobl ar hap. Os yw busnes yn mynd i gartrefi pobl, neu’n cysylltu’n rheolaidd â phlant neu oedolion bregus, bydd rhaid i gyflogeion gytuno i wiriad GDG.

Os oes problemau gallwn gynghori ar yr hyn sydd angen i gyflawni safon Prynwch â Hyder.