Trwyddedu
Y Gwasanaeth Trwyddedu sy’n gyfrifol am drwyddedu ystod eang o weithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau rydyn ni’n dod ar eu traws yn ein bywyd bob dydd.
Mae’r adran drwyddedu’n gosod safonau uchel i amddiffyn y cyhoedd drwy sicrhau bod deiliaid trwyddedau’n bobl gymwys ac addas i gynnal y gweithgaredd dan drwydded, ac i osod a chynnal y safonau disgwyliedig gan ddeiliaid trwyddedau.
Mae trwyddedau’n cynnwys:
- Alcohol ac Adloniant
- Anifeiliaid
- Casgliadau elusennol
- Tacsis
- Gamblo
Mae trwyddedu’n chwarae rhan bwysig wrth atal troseddu, anrhefn a niwsans cyhoeddus yn ogystal ag atal masnachu annheg a diogelu busnesau lleol a grwpiau cymunedol. Mae’n rhoi cyfle i chi ddweud eich dweud a chwarae rhan fwy blaenllaw yn eich cymuned.
Gwasanaethau Trwyddedu Awdurdodau Lleol
I wneud cais am drwydded neu i adnewyddu trwydded, ewch i wefan eich awdurdod lleol.