Prif Awdurdod
Partneriaeth rhwng Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a’ch busnes sy’n cael ei gydnabod gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
"Partneriaethau Prif Awdurdod: Sicrhau Cysondeb a Galluogi Twf"
Ein swyddogaeth yw darparu cyngor a chymorth mewn meysydd penodol yn cynnwys Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd a rheoliadau trwyddedu sy’n berthnasol i’ch busnes.
Caiff y Bartneriaeth Prif Awdurdod ei gweinyddu gan yr Swyddfa dros Diogelwch Cynnyrch a Safonau.
Dod i nabod yn ein partneriaid Prif Awdurdod
- A ydych yn chwilio am gyngor sicr, cyson a dibynadwy a fydd yn galluogi eich busnes i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol?
- A yw biwrocratiaeth yn rhwystro eich busnes rhag cyrraedd ei lawn botensial?
- A ydych angen cyngor ar eich polisiau, trefniadaethau ac ymarferion busnes?
Os ateboch ‘ydy’ i un o’r cwestiynau hyn yna efallai mai'r ateb yw partneriaeth Prif Awdurdod gyda’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Mae pob math o fusnes yn gymwys. Felly, p’un a ydych yn rhedeg cadwyn o dai bwyta, yn gwerthu nwyddau trydanol i gwsmeriaid dros y DU neu’n cynhyrchu nwyddau, gallwch ddibynnu ar y cyngor sicr a dderbyniwch gennym ni. Rhaid i’r cyngor hwn fod yn ystyriol a chael ei ddilyn gan reoleiddwyr eraill sy’n ymgymryd ag archwiliadau neu waith gorfodi rhagweithiol.
Cefnogaeth a Chyfarwyddyd
Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gydweithrediad blaengar rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n tynnu ar arbenigedd swyddogion proffesiynol a phrofiadol. Yn ogystal â chael pwyntiau cydgysylltu busnes sy’n arbennig i chi, gallwch ddisgwyl:
- Cyngor, cefnogaeth a chyfarwyddyd cynhwysfawr
- Cyfarfodydd rheolaidd ac adolygiadau ar y bartneriaeth
- Cyngor sicr, y mae’n rhaid i reoleiddwyr eraill ei barchu. Fel Prif Awdurdod, gallwn gyfarwyddo’r camau gorfodi arfaethedig hynny sy’n anghyson â’r cyngor neu’r cyfarwyddyd a gynigiwyd gennym i’ch busnes, fel nad yw’n mynd rhagddo
- Hyfforddiant staff ar ystod eang o Safonau Masnach, Iechyd yr Amgylchedd a deddfwriaeth Trwyddedu
- Archwiliad o’ch polisïau a’ch gweithdrefnau
- Adolygu eich cytundebau a’ch telerau ac amodau
- Adroddiadau cyson a dadansoddi data i’ch cynorthwyo gyda chynllunio busnes rhag blaen
- Creu cynlluniau archwilio, sy’n golygu y bydd archwiliadau gan reoleiddwyr eraill yn llai o faich ac yn cymryd llai o amser
- Cyngor arbenigol ar Reoliadau Cymraeg yn unig
Manteision o Brif Awdurdod
Gall partneriaeth Prif Awdurdod eich galluogi i wneud arbedion ariannol sylweddol gan leihau'r baich rheoliadol ar eich busnes yr un pryd. Ni fydd eich pwynt cydgysylltu ag awdurdodau lleol ledled y DU, yn eich galluogi i fwrw ymlaen gyda’r gwaith dyddiol. Gall hyn leihau’r risg i’ch busnes gan gynyddu cynhyrchiant. Dyma beth rydyn ni’n ei olygu wrth Sicrhau Cysondeb a Galluogi Twf.
- Lefel sicr o gymorth gan swyddogion cymwys a phroffesiynol
- Mynediad i ffynonellau gwybodaeth ac asiantaethau eraill
- Arbedion ariannol
- Costau cydymffurfio is
- Safonau gwell
- Pwynt cyswllt unigol ar gyfer cyngor rheoliadol, gan ddileu anghysondeb
Cost
Rydym yn gweithredu ar sail adennill costau, sy’n golygu ein bod yn darparu ein gwasanaethau ar gyfradd hynod gystadleuol.
Gwasanaethau a Ffioedd
I drafod Prif Awdurdod yn ogystal â’ch anghenion busnes, cysylltwch â ni:
-
pa-srswales@valeofglamorgan.gov.uk