Podlediadau
Rydym am wneud gwybodaeth a chyngor ar yr holl faterion rheoleiddio mor hawdd â phosibl, a dyna pam rydym wedi lansio ein gwasanaeth Podcast newydd
Ein nod yw cynnal deialogau a thrafodaethau rhwng rheoleiddwyr, busnesau ac aelodau'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud ag Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Gallwch wrando ar bob un o'r penodau trwy glicio ar y ddolen berthnasol isod.
Cynhyrchir ein Podlediadau gan y bobl dda yn Bro Radio ac maent yn ffordd wych o gael mewnwelediadau ar bethau sydd o bwys i fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg - o alergenau a hylendid bwyd i iechyd, diogelwch a diogelu defnyddwyr.
Bro Radio yw'r orsaf Radio Cymunedol leol sy'n canolbwyntio ar Fro Morgannwg. Mae'n hyrwyddo teimlad o hunaniaeth gymdeithasol a balchder cymunedol ymhlith y cymunedau trefol, gwledig ac arfordirol sy'n bodoli yn y sir. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Bro Radio ar y Podlediadau hyn i obeithio cyrraedd cynulleidfa eang sy'n awyddus i ddysgu am faterion rheoleiddio.
Rydym hefyd yn gyffrous i gyhoeddi bod ein Podlediadau Gofynnwch i'r Rheoleiddiwr ar gael i wrando arnynt ar Spotify. Cliciwch yma i wrando ar bob pennod.
Pennod 11 - Benthyca Arian Anghyfreithlon (Atal Siarcod Benthyca Arian Cymru) - Ionawr 2023
Gwybodaeth bellach
Helpwr Arian
Atal Siarcod Benthyca Arian Cymru
Llinell Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth
Pennod 10 - Wythnos Diogelu Cenedlaethol
Pennod 9 - Wythnos Safonau Masnach Cymru
Pennod 8 - Prynwch efo Hyder (Medi 2022)
Pennod 7 - Prosiect Hyb Bwyd Penarth a bwyd cymunedol (Mehefin 2022)
Pennod 6 - Gweithio gyda busnesau: Cyflwyniad (Mai 2022)
Pennod 5 - Iechyd a Maeth (Ionawr 2022)
Pennod 4 - Bwyd y Nadolig (Rhagfyr 2021)
Pennod 3 - Wythnos Genedlaethol Diogelu (Tachwedd 2021)
Pennod 2 - Calan Gaeaf (Hydref 2021)
Pennod 1 - Gofynnwch i'r Rheoleiddiwr - Alergenau (Awst 2021)
Gadewch inni wybod beth hoffech chi o'n Podlediadau
Rydym yn annog busnesau i gysylltu â ni gydag unrhyw bynciau yr hoffech i ni ymdrin â nhw ac unrhyw gwestiynau sydd gennych ar gyfer pynciau podlediad sydd ar ddod. Anfonwch e-bost atom, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.