Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Ansawdd Dŵr

Gwybodaeth am ansawdd dŵr ac arweiniad ar gyfer cyflenwyr y prif gyflenwad a chyflenwadau preifat, baddonau, dŵr ymdrochi a Bae Caerdydd.

 

Cyflenwad Dŵr Preifat

Cyflenwad amgen i’r un sy’n cael ei ddarparu gan gwmni dŵr ydy cyflenwad dŵr preifat. Mae’r rhan fwyaf o gyflenwadau dŵr preifat yn gorwedd ar ffynnon naturiol ac yn cael eu cyflenwi gan ddŵr tanddaearol, ond mae dŵr yr arwynebedd yn effeithio ar y cyflenwad  gall fod yn ddibynnol ar y tywydd.

Yn unol â Rheoliadau Cyflenwad Dŵr Preifat (Cymru) 2010, mae’n ddyletswydd arnom i gynnal archwiliadau rheolaidd, asesiadau risg a monitro dŵr o gyflenwadau preifat i sicrhau bod y dŵr yn addas ar gyfer yfed, coginio ac ymolchi.

Byddwn ni’n cynnal asesiad risg a monitro dŵr p’un ai ydy eich cyflenwad yn fach neu’n fawr. Mae asesiadau risg yn caniatáu i ni ragweld unrhyw effeithiau posibl y gellid eu cael ar y cyflenwad a sut i’w datrys. Mae prawf dŵr yn rhoi gwybodaeth i ni am ansawdd y dŵr yn y fan a’r lle.


Byddwn ni hefyd yn archwilio unrhyw bibau, tanciau a systemau trin, ac yn casglu samplau dŵr i’w dadansoddi mewn labordy i sicrhau bod y dŵr yn addas i’w yfed.


Os mai’ch cartref chi yn unig sy’n gysylltiedig â’r cyflenwad dŵr, byddwn ni’n cynnal archwiliad ar eich cais, ond ddim fel arall.

Gallwch gysylltu â ni:

  • Os hoffech chi i ni asesu eich cyflenwad dŵr a phrofi eich dŵr
  • Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu bryderon am eich cyflenwad.

Mains Water Supply

Mae’r rhan fwyaf o gartrefi yn derbyn dŵr yfed o biben y prif gyflenwad dŵr a ddarperir gan Dŵr Cymru Welsh Water.

Cyfrifoldeb Dŵr Cymru ydy sicrhau bod y dŵr yn addas i’w yfed gan bobl ac yn cydymffurfio â safonau cyfredol.

Mae cyflenwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cael eu rheoleiddio gan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.

Dyma’r corff sy’n sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cyflenwi dŵr yfed diogel sy’n dderbyniol i ddefnyddwyr ac yn cydymffurfio â’r safonau gofynnol gan y ddeddfwriaeth.

Mae’r safonau cyfreithiol ar gyfer dŵr yfed i’w gweld yn y Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2000.

Filling glass with water

 

Rhoi gwybod am broblem

Os oes problem yn codi gyda’ch prif gyflenwad dŵr, cysylltwch â Dŵr Cymru:

0800 052 0130

Rhoi gwybod Ar-lein

Indoor-Swimming-Pool

Baddonau

Mae samplu rheolaidd yn digwydd pryd bynnag bo angen mewn baddonau cyhoeddus a phyllau sba drwy’r flwyddyn i wirio bod ansawdd y dŵr yn foddhaol.

View-of-Cardiff-Bay

Ansawdd Dŵr Bae Caerdydd

Mae’r holl ddata ar ansawdd dŵr yn cael ei gasglu a’i ddadansoddi mewn adroddiad chwarterol. Mae’r adroddiadau yma ar gael i’w harchwilio yn swyddfa Awdurdod yr Harbwr.

Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Awdurdod yr Harbwr.

Knap-Beach

Dŵr Ymdrochi

Mae 11 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yn ardaloedd awdurdodau’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, wyth yn y Fro a thri yn ardal Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

Y dyfroedd ymdrochi dynodedig yn y Fro yw:

  • Traeth Penarth
  • Bae Jackson
  • Bae Whitmore
  • Bae’r Tŵr Gwylio (Y Barri)
  • Y Cnap
  • Col-Huw (Llanilltud Fawr)
  • Bae Dwn-rhefn (Southerndown)
  • Aberogwr

Y dyfroedd ymdrochi dynodedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw:

  • Bae Gorffwys
  • Bae Tywodlyd (Traeth Coney)
  • Bae Trecco

Mae ansawdd dŵr dyfroedd ymdrochi Cymru yn cael ei oruchwylio gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Mae’r tymor dŵr ymdrochi yn rhedeg rhwng 15 Mai a 30 Medi bob blwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwn bydd CNC yn samplu’r dŵr yn rheolaidd ar draethau dynodedig i fonitro ansawdd y dyfroedd ymdrochi.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein traethau dynodedig, gan gynnwys canlyniadau samplau dŵr, yma.

Mae gwybodaeth am sut i gyrraedd ein traethau a’r cyfleusterau sydd ar gael yno ar gael yma.

 

Guidance