Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Pwysau a Mesurau

Y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir sy’n gyfrifol am fesureg, sef pwysau a mesurau gynt, ac am orfodi Deddf Pwysau a Mesurau 1985.

 

Ein gwasanaeth ni sy’n gyfrifol am sicrhau nad ydy defnyddwyr na busnesau eraill yn derbyn pwysau annigonol wrth brynu nwyddau. Rhaid i bob darn o gyfarpar a ddefnyddir i bwyso a mesur ar gyfer masnachu gael ei gymeradwyo a’i brofi’n unol â gofynion cyfreithiol cyn y gallant gael eu defnyddio.

Mae cyfarpar cymeradwy i gyd yn arddangos marc o ryw fath, boed yn stamp coron ar wydr cwrw, neu’n stamp ar beiriant pwyso llysiau a ffrwythau.  

Rhaid i bob darn o gyfarpar a ddefnyddir i bwyso a mesur ar gyfer masnachu gael ei brofi’n achlysurol gan swyddog cymwysedig yn ystod archwiliad cyffredin i sicrhau bod y cyfarpar yn gywir.

Petrol-PumpMae’r rhain yn cynnwys:

  • Pympiau Tanwydd
  • Cloriannau mewn siopau, ffatrïoedd, Swyddfa’r Post neu safle gwerthwr glo etc.
  • Pontydd pwyso a pheiriannau platfform mewn ffatrïoedd
  • Optigau mewn tafarndai
  • Nwyddau a werthir wrth eu hyd, e.e. carpedi, defnydd
  • Bwyd rhydd ac wedi’i bacio
  • Cloriannau pwyso cesys mewn maes awyr

Os ydych chi’n rhedeg busnes, a hoffech dderbyn cyngor ac arweiniad ar y materion hyn, neu os oes gennych broblem fesureg, cysylltwch â’r GRhR:

Dweud wrthon ni

Os ydych chi’n defnyddiwr sydd eisiau dweud wrthon ni am fesurau neu bwysau annigonol, ac i gael gwybodaeth neu gyngor, cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth. Mae’r llinell ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener o 9.00a.m. tan 5.00p.m.

Dydy’r swyddfa ddim ar agor ar Ŵyl y Banc. 03454 040505

Dweud wrthon ni am fesur neu bwysau annigonol