Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cyngor ar Fusnes

Mae pob busnes, waeth beth ydy ei faint, o dan reolaeth ystod eang o ddeddfwriaeth wedi ei chynllunio i amddiffyn y defnyddiwr.

Rydych chi o dan reolaeth y ddeddfwriaeth hon p’un a ydych chi’n gwneuthuro, mewnforio neu fân-werthu nwyddau, neu’n darparu gwasanaethau.

Rydyn ni’n cynnig cyngor ar systemau cydymffurfiaeth a, phryd bynnag mae’n bosibl, yn cynghori ar nwyddau a gwasanaethau penodol. Ein bwriad ydy eich helpu i ddeall eich cyfrifoldebau a chydymffurfio â’ch ymrwymiadau cyfreithiol.

Rydyn ni’n cefnogi cynllun Prif Awdurdod (‘Primary Authority’), sy’n cynnig cyfle i gwmnïau ffurfio partneriaeth statudol gydag awdurdod lleol parthed rheoliadau mewn un maes penodol. Gall y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ddarparu cyngor wedi ei deilwra i’ch busnes, a gall cyrff rheoleiddio eraill ystyried hyn wrth gynnal archwiliadau neu ymwneud â diffyg cydymffurfiaeth.Business meeting women

Gallwn ni gynghori busnesau ar yr isod:

Am wybodaeth bellach am y cynllun ‘Primary Authority’, ewch i wefan Swyddfa Darparu Rheoleiddio Gwell.

Cysylltwch â ni os oes gan eich busnes ddiddordeb mewn sefydlu perthynas ‘Primary Authority’ gyda’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

Cyfraith Safonau Masnach

Mae gwefan Cydymaith Busnes Sefydliad Siartredig Safonau Masnach yn darparu arweiniad i fusnesau sydd angen gwybodaeth am ddeddfwriaeth safonau masnach. Caiff y wefan ei noddi gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, ac mae’n cynnwys pynciau fel

Natur y gwerthu

Nwyddau – hawliau defnyddwyr pan maen nhw’n prynu nwyddau (heb wasanaethau) gennych chi, yn cynnwys gwybodaeth am gynnig ad-daliad, atgyweirio neu gyfnewid.

Digidol – hawliau defnyddwyr pan fyddwch chi’n darparu cynnwys digidol, fel ap i ffôn symudol, gêm gyfrifiadur neu DVD.

Gwasanaethau – hawliau defnyddwyr pan maen nhw’n prynu’ch gwasanaethau (heb nwyddau), er enghraifft, gwasanaethau asiant tai neu ddarparwyr cytundebau ffonau symudol.

Lleoliad y gwerthu

Gwerthiant ar y safle – gwerthu o leoliad eich busnes, er enghraifft, siop neu stondin farchnad (neu pan na sefydlir cytundeb oddi ar y safle neu o bell)

Gwerthu oddi ar y safle – gwerthu nwyddau, gwasanaethau a chynnwys digidol heb fod ar eich safle, fel cytundebau a sefydlir yng nghartref neu swyddfa’r cleient

Gwerthiant o bell – gwerthu nwyddau, gwasanaethau neu gynnwys digidol heb gyswllt wyneb yn wyneb â’r cwsmer, er enghraifft, ar-lein, drwy’r post neu dros y ffôn

Eich dull o werthu

Cytundebau Defnyddwyr – pryd a sut y sefydlir cytundeb â defnyddwyr, a sut i sicrhau bod eich arferion masnachu’n gyfreithlon ac yn deg

Arferion Da – eich ymrwymiad cyfreithiol i fasnachu’n deg â’ch cwsmeriaid; y ddeddfwriaeth sy’n amddiffyn defnyddwyr rhag arferion masnachu annheg

Prisio a Thalu – y rheolau sy’n cynnwys arddangos prisiau, pris yr uned a phris gwerthiant, a derbyn taliadau mewn dull cyfreithlon a theg

Marchnata i Fusnesau Eraill

Mae Rheoleiddiadau Amddiffyn Busnes rhag Marchnata Camarweiniol 2008 yn gwahardd hysbysebu camarweiniol rhwng busnesau a’i gilydd, ac yn gosod cyfyngiadau pellach ar y modd y gall busnesau gymharu eu cynnyrch â chynnyrch cystadleuol gan gwmnïau eraill.

Os ydych chi’n gwerthu i fusnesau, mae’r Rheoliadau’n eich gwahardd rhag darparu gwybodaeth gamarweiniol i fusnesau eraill ac effeithio ar, neu fod yn debygol o effeithio ar, eu perfformiad economaidd. Rydych chi hefyd wedi eich gwahardd rhag darparu gwybodaeth gamarweiniol a allai niweidio, neu sy’n debygol o niweidio, cystadleuydd.

I wneud cwyn am arferion masnachu busnes arall, ffoniwch 0808 223 1144

Anfon cwyn neu ymholiad ar-lein

Ceir gwybodaeth bellach ar Reoleiddiadau Amddiffyn Busnes rhag Marchnata Camarweiniol ar wefan Gov.uk

Arweiniad Pellach