Diweddariad Ffliw Adar Pathogenig Iawn
Ar 24 Mehefin, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru yn anffodus wedi cadarnhau dau achos o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI).
Mehefin 27ain, 2025
Dyma'r achosion cyntaf yng Nghymru ers mis Ebrill 2023. Yr achos cyntaf a gadarnhawyd yw diadell iard gefn ger Hwlffordd, Sir Benfro
a'r ail yn fenter adar hela ger Glyn Ceiriog, Wrecsam.
Bydd Parth Gwarchod 3km (PZ) a Pharth Gwyliadwriaeth 10km (SZ) yn cael eu rhoi ar waith o amgylch y ddwy safle.
Bydd yr SZ yn achos Wrecsam yn croesi'r ffin i Swydd Amwythig, Lloegr.
Mae datganiadau wedi'u cyhoeddi yma: Ffliw adar: cyfyngiadau cyfredol | LLYWODRAETH CYMRU.
Mae'r achosion newydd hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd pob ceidwad adar i gynnal y safonau uchaf o fioddiogelwch bob amser, i amddiffyn eu heidiau.
Fel atgof, mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan (AIPZ) gyda mesurau bioddiogelwch gorfodol yn parhau i fod ar waith, yn ogystal â gwaharddiad ar gasgliadau dofednod.Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am fesurau bioddiogelwch yma.