Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Preifatrwydd a Chwcis

Ymwelwyr â’n gwefan

Pan fydd rhywun yn ymweld â www.grhr.wales, rydyn ni’n casglu gwybodaeth logio safonol y rhyngrwyd a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn darganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o’r wefan. Rydyn ni’n casglu’r wybodaeth mewn ffordd nad sy’n adnabod neb yn unigol. Dydyn ni ddim yn gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy unrhyw ymwelydd. Ni fyddwn ni’n cysylltu unrhyw ddata a gesglir o’r wefan hon ag unrhyw wybodaeth a allai adnabod unigolyn o unrhyw ffynhonnell. Os ydyn ni’n dymuno casglu gwybodaeth benodol am unigolion drwy ein gwefan, byddwn yn dweud hynny’n agored. Byddwn yn ei gwneud yn amlwg pan fyddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol, ac yn egluro’r hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud â’r wybodaeth.

Defnydd cwcis gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

Ffeiliau testun bychain yw cwcis, a osodir ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych yn ymweld â nhw. Defnyddir nhw’n helaeth i hwyluso dull gweithredu’r wefan, neu i wella’r dull hwnnw, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan. 

Mae’r tabl isod yn egluro pa gwcis rydyn ni’n eu defnyddio a pham.

Cookie Table
Cwci Enw PwrpasGwybodaeth bellach
Google Analytics _utma

_utmb
_utmc
_utmz

Casglu gwybodaeth am
y ffordd mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i
lunio adroddiadau a’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth
ar ffurf ddienw, yn cynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan, o ble mae’r bobl yn
dod i’r wefan, a’r tudalennau a ddarllenwyd ganddyn nhw.
Google
Privacy

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu rywfaint o reolaeth dros gwcis drwy osodiadau’r porwr. I ddarganfod mwy am gwcis, yn cynnwys pa rai sydd wedi cael eu gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i: http://www.allaboutcookies.org/.

I ddewis peidio â chael eich dilyn gan Google Analytics ar unrhyw wefan o gwbl, ewch i: http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.