Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Llygredd Golau

Golau artiffisial sy’n cael goleuo ardaloedd nad oedd i fod i gael eu goleuo ydy llygredd golau. Gall llygredd golau gael effaith niweidiol ar y gymuned leol ac ar yr amgylchedd.

Light-flare

Er mwyn i olau ar unrhyw safle gael ei ystyried yn niwsans statudol, rhaid iddo oleuo safle arall mewn ffordd sy’n achosi niwsans neu a allai fod yn niweidiol i iechyd. Enghraifft nodweddiadol o lygredd golau fyddai golau diogelwch mewn man anaddas yn sgleinio drwy ffenestr ystafell wely cartref cyfagos.

Noder: Mae rhai safleoedd wedi eu heithrio o’r ddeddfwriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd awyr, safleoedd rheilffordd, gorsafoedd bysiau, goleudai, carchardai a safleoedd amddiffyn.

Ni ellir gweithredu dim ond oherwydd bod rhywun yn ymwybodol bod golau’n sgleinio ar eu heiddo o ffynhonnell arall. Mae pennu beth all fod yn niwsans statudol yn seiliedig ar nifer o ffactorau, yn cynnwys yr isod:

  • Natur yr ardal gyfagos - ydy hi’n drefol / yn wledig / yn fasnachol?
  • Sawl gwaith mae niwsans golau wedi digwydd hyd yn hyn, e.e. un, deg, mwy?
  • Pa mor aml mae’r golau’n cael ei ddefnyddio, e.e. yn fisol, yn wythnosol, bob nos, bob awr?
  • Am ba hyd mae’r golau’n para, e.e. eiliadau, munudau, oriau neu’n hirach?
  • Beth ydy effaith y golau, e.e. pa mor llachar ydy e yn eich cartref a pha ystafelloedd sy’n cael eu heffeithio?
  • Oes unrhyw fesurau wedi cael eu gweithredu i leddfu effaith y golau gan yr achwynwr, e.e. defnydd llenni neu fleindiau?

Os bydd yr adran yn derbyn tystiolaeth sy’n cadarnhau’r honiadau, bydd yn gweithredu i wella’r sefyllfa.

Gallai hyn olygu gweithredu rhyw fath o reoli anffurfiol, ond fel arfer bydd yn golygu cyflwyno hysbysiad atal i’r sawl sy’n gyfrifol. Yn ôl hwn, rhaid iddyn nhw atal y niwsans neu leihau ei effaith i lefel resymol sy’n dderbyniol i’r swyddog sy’n archwilio. Mae’n drosedd cyfreithiol peidio â chydymffurfio â hysbysiad atal.

Dweud wrthon ni

Rhowch wybod i ni am lygredd golau drwy gysylltu â’r GRhR:

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

Arweiniad