Llygredd Sŵn
Archwilio cwynion am sŵn sy’n tarddu o safleoedd cartref neu fasnachol o dan Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990, Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993, Deddf Sŵn 1996 a Deddf Drwyddedu 2003.

Gall swyddogion asesu a ydy sŵn yn niwsans statudol ac ym mha fodd y gallwch weithredu. Cyn i chi roi gwybod i ni am broblem sŵn, efallai yr hoffech drafod y mater â’ch cymydog, achos efallai nad ydy e’n ymwybodol ei fod yn achosi problem.
Er mwyn gwneud cwyn, bydd angen i chi roi’ch enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn i ni, yn ogystal â’r cyfeiriad mae’r sŵn yn tarddu ohono. Cedwir manylion yr achwynwr yn gyfrinachol. Mae angen eich manylion cyswllt arnom er mwyn i Swyddogion fedru cysylltu â chi i drafod eich cwyn yn fwy manwl. Yn anffodus, ni allwn dderbyn cwynion dienw.
Mae cwynion am sŵn yn cynnwys:
- Cerddoriaeth uchel
- Cŵn sy’n cyfarth
- Larymau – dywedwch wrthon ni pwy sydd ag allwedd i’ch tŷ
- Gwaith ar y cartref
- Sŵn anifeiliaid
- Sŵn safleoedd adeiladu
- Sŵn masnachol
- Offerynnau cerdd
- Sŵn sy’n cael ei achosi gan gerbyd, peirianwaith neu gyfarpar ar y stryd.
Noder:
Ni all Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ddelio â sŵn a achosir gan: draffig, plant, bywyd bob dydd, rheilffyrdd ac awyrennau.
Dweud wrthon ni: Llygredd Sŵn
Cyn i chi ddweud wrthon ni am broblem, dylech chi geisio delio â hi. Os na allwch chi ddatrys y broblem gyda’r bobl sy’n gyfrifol amdani, gallwch chi ddweud wrthon ni am sŵn sy’n niwsans:
Galwadau Argyfwng y Tu Allan i Oriau Agor
Gellir cysylltu â Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir y tu allan i oriau ar gyfer Argyfyngau Rheoleiddio a all gynnwys
- Larymau Lladron sy wedi bod yn canu ers dros 30 munud
- Larymau Ceir sy wedi bod yn canu ers dros 15 munud
Trigolion Pen-y-bont ar Ogwr
Trigolion Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg
Gwasanaeth Sŵn Amser Adweithiol - trigolion Cyngor Caerdydd yn unig
Mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn darparu Gwasanaeth Sŵn Nos ar ran Cyngor Caerdydd i'w trigolion. Fel arfer mae'r oriau gweithredu ar gyfer y gwasanaeth hwn ar adegau prysur ar nos Wener a nos Sadwrn o 7yh tan yn hwyr. Gellir cysylltu â'r gwasanaeth hwn ar yr adegau hynny ar:
Guidance
Mae Prynu efo Hyder yn gynllun annibynnol cenedlaethol sy'n dangos i gwsmeriaid bod cwmni'n agored, yn onest, yn gweithredu o fewn cyfraith masnachu a bod ganddo wasanaeth da i gwsmeriaid.
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am y cynllun.