Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Tir Llygredig

Yn unol ag Adran 2A Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990, mae’n ofynnol ar y GRhR i archwilio tir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i adnabod safleoedd lle gallai fod y tir yn llygredig oherwydd ei ddefnydd hanesyddol, ac y gallai hyn achosi niwed i’r cyhoedd neu i’r amgylchedd.

Soil

Gallai’r tir fod wedi cael ei lygru pan gafodd sylweddau eu gollwng ar y tir neu o dan yr wyneb, yn aml oherwydd gwastraff diwydiannol, gollyngiadau neu orlifoedd. Gallai’r sylweddau fod yn bresennol yn y tir o hyd, a’r lefelau’n uwch na sy’n dderbyniol.

Rhaid sefydlu cysylltiad llygredd arwyddocaol, a rhaid i’r tair elfen isod fod yn bresennol er mwyn i safle gael ei dyfarnu’n llygredig:

  1. Ffynhonnell: Sylwedd sydd yn y tir, arno neu o dan yr wyneb a allai niweidio pobl neu lygru dŵr rheoledig.
  2. Llwybr: Ffordd y gall neu y gallai’r derbynnydd fod yn agored i gael ei effeithio gan y sylwedd(au) gwreiddiol.
  3.  Derbynnydd: Gallai fod yn un o’r rhain: organebau byw, grŵp o organebau byw, system ecolegol, eiddo neu ddŵr rheoledig.

Gall unrhyw unigolyn, sefydliad neu fusnes fod yn gyfrifol am gostau glanhau os gellir profi eu bod nhw wedi achosi’r llygredd neu wedi ei ganiatáu’n fwriadol, neu os ydyn nhw’n berchen ar neu’n byw ar dir llygredig lle nad oes modd dod o hyd i achos gwreiddiol y llygredd.

Strategaethau Archwilio Tir Llygredig

Gall tir a ddefnyddid gynt gan y sector diwydiannol fod yn cael ei ddefnyddio at bwrpas gwahanol bellach, sy’n fwy sensitif i effeithiau posibl llygredd.

Mae Strategaethau Archwilio Tir Llygredig y tri awdurdod lleol yn manylu ar y ffordd maen nhw’n archwilio ardaloedd am dir a allai fod yn llygredig.

The three local authority's Contaminated Land Inspection Strategies set out how they inspect areas for potentially contaminated land.

 

Datblygu tir

Mae’n ddyletswydd ar yr Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA) ystyried llygredd posibl pan fydd yn paratoi cynlluniau datblygu ac yn pennu caniatâd cynllunio.

Dylai datblygwyr gyflwyno gwybodaeth ddigonol gyda’u cais cynllunio am adnabod peryglon posibl llygredd, a bodloni’r LPA bod dewis adferol ymarferol ar gyfer y safle. Dylid dangos na fydd datblygu tir llygredig yn cyflwyno nac yn creu peryglon annerbyniol, nac yn caniatáu i rai sy’n bodoli eisoes barhau.

Dylid paratoi adroddiadau safle yn unol â Chanllaw Datblygwyr CLlLC 2023 ac arweiniad ar-lein Asiantaeth yr Amgylchedd: Halogiad Tir: Rheoli Risg (LCRM).

 

Ceisiadau a Chostau Gwybodaeth Amgylcheddol

Rydyn ni’n cadw cofnodion y gellir eu defnyddio i asesu tir a allai fod wedi ei lygru.

Gellir cael gafael yn y wybodaeth ffeithiol sy gennym ni drwy’r Rheoliadau Gwybodaeth am yr Amgylchedd (EIR), ond dim ond at bwrpas anfasnachol, ymchwil neu adolygu y gellir ei defnyddio. 

Yn unol â’r EIR, mae 20 diwrnod gennym i wireddu eich cais.

Os byddwch chi angen i’n swyddogion adolygu’r wybodaeth a darparu ymateb ysgrifenedig manwl, bydd ffi i’w dalu am y gwaith hwn, yn ddibynnol ar ba mor gymhleth mae’ch cais.

Cysyllwch â’r GRhR i gyflwyno cais ffurfiol am wybodaeth amgylcheddol, ac am fanylion y costau ynghlwm a sut i dalu

 

Arweiniad