Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Niwsans Sŵn: Sut i ddwyn achos cyfreithiol eich hun

NoisyMae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn ymchwilio i gwynion am niwsans sŵn sy'n deillio o sefyllfaoedd domestig, diwydiannol a masnachol.  Os ystyrir bod y sŵn yn cyfateb i niwsans statudol, gall Hysbysiad Atal gael ei gyflwyno naill ai i berchennog neu i feddiannydd y safle neu i'r person sy'n gyfrifol am y sŵn.

 

Mewn achosion lle na ellir profi'r niwsans sŵn, e.e. oherwydd ei afreoleidd-dra, ni allwn gymryd camau gorfodi statudol.  Yn yr amgylchiadau hyn, neu os nad ydych am gynnwys y Cyngor ar eich rhan, gallwch ddwyn eich achos cyfreithiol eich hun dan Adran 82 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 trwy ddwyn achos yn erbyn y person sy'n gwneud y sŵn yn y llys ynadon lleol.
Efallai y byddwch am ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiwr i'ch cynorthwyo; fodd bynnag, er yr argymhellir hyn, nid yw’n hanfodol a bydd rhaid i chi dalu amdanynt.

Bwriad yr arweiniad canlynol yw rhoi cyngor i chi ar sut i gymryd eich camau eich hun dan Adran 82.  Nid yw'n gwarantu canlyniad llwyddiannus a rhaid nodi, os na chaiff achos llys ei brofi, mae'n bosibl y bydd gan y diffynnydd hawl i wneud cais am gostau yn eich erbyn.  Mae gan y llys ddisgresiwn mewn amgylchiadau o'r fath ac, os yw'n fodlon bod gennych sail resymol dros ddwyn yr achos, er na phrofwyd yr achos, byddai'n llai tebygol o ddyfarnu costau.  Fodd bynnag, petai’r llys o'r farn bod y gŵyn yn gyfeiliornus, yn faleisus neu'n ddisylwedd, byddai'n tueddu i ddyfarnu costau fel arfer.

Os penderfynwch gymryd eich camau eich hun, bydd angen i chi gadw copïau o'r holl ddogfennau gan y bydd eu hangen yn y gwrandawiad llys.

Cam 1 – Cadw Cofnod o'r Sŵn

Cadw cofnod ysgrifenedig o'r sŵn gan gynnwys y canlynol:

  • Dyddiadau, amserau a hyd y sŵn ar gyfer pob digwyddiad
  • Disgrifiad o'r sŵn y cwynir amdano a sut mae'n effeithio arnoch chi

Mae'n bwysig gwneud eich nodiadau ar y pryd mae’r sŵn yn digwydd neu'n fuan iawn ar ôl hynny. Bydd angen darbwyllo'r llys ynadon bod y broblem sŵn yn gyfystyr â niwsans statudol ac er nad yw'n angenrheidiol, bydd yn werthfawr iawn os gallwch gael tystiolaeth ategol gan unrhyw dystion eraill neu gymdogion eraill y mae'r sŵn yn effeithio arnynt hefyd.

Cam 2 – Adnabod y "Person sy'n Gyfrifol" am y Sŵn

Y person y dylech ei "wysio" i ymddangos yn y llys, "y diffynnydd", yw'r person sy'n achosi'r niwsans sŵn yn ôl eich honiad chi.

Cam 3 – Rhoi "Hysbysiad o Fwriad" i Ddwyn Achos yn erbyn y "Person sy'n Gyfrifol" am y Sŵn

Cyn i chi ddechrau achos cyfreithiol, mae'n ofynnol i chi ysgrifennu at y person sy'n gwneud y sŵn ac esbonio eich bod yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol.

Rhaid i'r person sy’n gwneud y sŵn dderbyn "hysbysiad o fwriad" ysgrifenedig tri diwrnod cyn dechrau'r achos.  Os byddwch yn anfon y llythyr trwy'r post, dylech ganiatáu amser rhesymol iddo gyrraedd y person cyn dechrau cyfri’r dyddiau. Gellir gwneud hyn trwy: 

  • Ei roi i'r person dan sylw yn ffisegol neu;
  • Ei roi trwy'r blwch llythrennau yn y man lle y mae'r person yn preswylio neu;• Ei anfon at y person, yn ei gyfeiriad, trwy ddosbarthiad cofnodedig.

Cam 4 – Cwblhau "Ffurflen Datganiad Tyst"

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen datganiad tyst.  Dylid cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn eich "datganiad tyst" (gweler Atodiad 1):

  • Eich enw a’ch cyfeiriad
  • Enw a chyfeiriad y diffynnydd
  • Y dyddiadau pan ddigwyddodd y sŵn
  • Amserau a hyd y niwsans
  • Y lle mae'r niwsans yn deillio ohono
  • Disgrifiad o’r sŵn

Effaith y sŵn arnoch chi a'ch rheswm dros gredu ei fod yn niwsans o fewn ystyr Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Gellir cael llawer o'r wybodaeth hon o'ch taflen gofnodi ysgrifenedig.

Cam 5 – Cychwyn Camau Cyfreithiol – Gwneud Cwyn i'r Llys Ynadon

Pan anwybyddir yr "Hysbysiad o Fwriad", neu pan fo'r ymateb yn anfoddhaol, er mwyn bwrw ymlaen â’r achos bydd rhaid i chi wneud cais i'r Llys Ynadon am "wŷs" i'w chyhoeddi yn erbyn y troseddwr honedig dan ddarpariaethau Adran 82 (1) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

I wneud cais am wŷs, bydd rhaid i chi fynd i’r Llys Ynadon.  I wneud eich cwyn, gofynnwch i weld "Clerc y Llys" a fydd yn rhoi "Ffurflen Gwyno" a "Ffurflen Wŷs" i chi a bydd yn eich cynghori ar sut i'w llenwi.

Ar ôl cwblhau'r ffurflenni, bydd gofyn i chi aros nes y cewch y cyfle i esbonio'r gŵyn i'r Ynad.  Os yw'r Ynad yn fodlon bod cyfiawnhad dros y gŵyn, caiff y ffurflen wŷs ei llofnodi.  Bydd y Ffurflen Wŷs yn nodi’r dyddiad a'r amser pan fwriedir i'r achos gael ei glywed gan y Llys.  Mae'n bosibl y bydd yr achos yn cael ei ohirio ar y diwrnod, felly byddwch yn barod i fynd yn ôl i'r llys ar ddiwrnod arall.

Cam 6 – Sicrhau'r Wŷs

Y Llys sy’n cyhoeddi'r Wŷs fel arfer, ond os oes angen i chi gyhoeddi'r Wŷs, bydd angen i chi ardystio’r dull cyhoeddi rydych wedi’i ddewis ar gefn y ffurflen Wŷs.  Mae dwy ffordd y gallwch gyhoeddi Gwŷs:

  • Trwy ei roi i'r person sy'n cael ei "Wysio" i ymddangos;
  • Ei anfon, trwy ddosbarthiad cofnodedig, at y person sy'n cael ei wysio i ymddangos.

DS:  Os nad ydych yn glir ynglŷn â'r dull cyhoeddi, holwch Glerc y Llys.

Cam 7 – Y Gwrandawiad Llys

Nid oes rhaid i chi gael eich cynrychioli gan gyfreithiwr ond, os penderfynwch gynnal yr achos eich hun, bydd y Llys yn disgwyl i chi ddilyn gweithdrefn briodol y Llys.

Pan glywir eich cwyn yn y Llys, mae'n rhaid i chi sicrhau bod gennych gopi o'ch datganiad a’ch dyddiaduron sŵn. Pan fyddwch yn rhoi eich tystiolaeth yn y safle tystio, gofynnwch i'r Ynadon a allwch ddarllen o'r nodiadau rydych wedi'u gwneud ac egluro eich bod wedi gwneud y nodiadau ar yr adeg y digwyddodd y sŵn.

Awgrymir eich bod yn cyflwyno eich tystiolaeth fel a ganlyn:

  • Rhoi disgrifiad o'r safle sy’n darddiad y sŵn, e.e. eiddo ar wahân, tŷ pâr ac ati, a lleoliad eich annedd a’i agosrwydd mewn perthynas â ffynhonnell y sŵn.
  • Rhoi disgrifiad o'r sŵn a pham rydych yn credu ei fod yn niwsans.
  • Darllen eich datganiad a dyfynnu o'r cofnodion gwirioneddol o'r sŵn a gedwir gennych.
  • Cadarnhau mai'r person a dderbyniodd yr "Hysbysiad o Fwriad" yw'r person sy'n gyfrifol am y "Niwsans Statudol".
  • Cyflwyno copi o’r "Hysbysiad o Fwriad" i gadarnhau bod digon o wybodaeth wedi'i rhoi i'r derbynnydd ac i ddangos ei fod wedi'i gyflwyno'n briodol.
  • Cadarnhau nad oedd ymateb rhesymol na boddhaol i'r "Hysbysiad o Fwriad" o fewn y cyfnod amser priodol a bod y "Niwsans Statudol" yn bodoli ar ddyddiad gwneud cais am yr wŷs neu ei bod wedi digwydd yn ddiweddar.

Ar ôl i chi gyflwyno eich tystiolaeth, bydd gan y diffynnydd gyfle i ofyn cwestiynau i chi ac mae'r Ynadon hefyd yn debygol o'ch holi.
Byddwch wedyn yn cael y cyfle i alw unrhyw dystion.  Os gwnewch hynny, bydd y Llys yn disgwyl i chi eu holi er mwyn cyflwyno eu tystiolaeth.  Gall y diffynnydd a'r Ynadon hefyd holi'r tystion.

Unwaith y bydd y diffynnydd wedi rhoi tystiolaeth, byddwch yn gallu ei holi ond dylech sicrhau eich bod yn osgoi unrhyw ddadleuon neu wneud datganiadau pan ddylech ofyn cwestiynau.  Ni fyddwch yn helpu eich achos os byddwch yn mynd yn elyniaethus yn y Llys.

Cam 8 – Dyfarniad y Llys

Os yw'r Llys yn fodlon bod niwsans honedig yn bodoli, neu y gall ddigwydd eto yn yr un lle, mae'n rhaid i’r Llys wneud Gorchymyn ar gyfer un o'r canlynol neu'r ddau ohonynt:

  • Ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n achosi'r niwsans ymatal rhag achosi’r niwsans o fewn amser penodol;
  • Peidio ag ailddechrau achosi’r niwsans.

Mae Adran 82 (12) Deddf 1990 yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i'r Llys orchymyn i'r diffynnydd dalu, i'r tîm erlyniaeth, unrhyw swm y mae'r Llys yn ei ystyried yn rhesymol o ddigonol i'w ddigolledu am unrhyw dreuliau a godwyd wrth ddwyn yr achos.  Os hoffech chi hawlio'r costau hyn, dylech gael syniad am faint o swm a sut gwnaethoch chi gyfrifo’r ffigur hwnnw.  Hefyd gallwch ofyn i’r Llys roi iawndal dan Adran 35 Deddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol gan yr ystyrir y tramgwydd yn drosedd.

Cam 9 – Camau Pellach i'w Cymryd Os Bydd y Sŵn yn Parhau Ar Ôl i'r Gorchymyn Llys Gael ei Wneud

Os nad ufuddheir i’r Gorchymyn Llys, gallwch wneud cwyn ychwanegol i'r un llys, trwy ofyn am gyngor Clerc y Llys.  Dylech gadw cofnod o ddigwyddiadau sŵn hyd at ac ar ôl yr Achos Llys gwreiddiol.  Gall y Llys ddirwyo person sy'n diystyru'r Gorchymyn Llys.  Gellir cael copïau gwag o Daflenni Dyddiadur Sŵn a Ffurflenni Datganiad Tyst o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir.