Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Rhoi gwybod am Lygredd Sŵn

Cyn i chi roi gwybod i ni am broblem sŵn, dylech geisio delio â'r broblem yn bersonol yn gyntaf.

Amlinellir mwy o wybodaeth yma. Os na allwch ddatrys y mater gyda'r person sy'n gyfrifol, gallwch roi gwybod i Noise finger in earni am sŵn niwsans

I wneud cwyn bydd angen i chi ddarparu eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn cyswllt/cyfeiriad e-bost a chyfeiriad lle mae'r sŵn yn digwydd. Rydym angen eich manylion cyswllt fel y gall Swyddogion gysylltu â chi i drafod eich cwyn yn fanylach.

Yn anffodus, ni allwn dderbyn cwynion dienw. Rydym yn cadw manylion yr achwynydd yn gyfrinachol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen datgelu pwy ydych chi i gefnogi achos y Cyngor os cymerir camau cyfreithiol.

Sylwch y gall ymchwilio i niwsans statudol fod yn broses hir gan fod angen casglu llawer o dystiolaeth. Bydd gofyn i chi lenwi taflenni logiau sŵn a fydd yn rhan o ddatganiad tyst wedi'i lofnodi os bydd angen cymryd camau gorfodi. Ni fyddwn yn gallu symud eich cwyn yn ei blaen os na fyddwch yn dychwelyd y taflenni cofnodi.

Mae achosion llys yn brin gan ein bod yn ceisio datrys cwynion yn anffurfiol, fodd bynnag efallai y bydd angen i chi fynychu'r llys os bydd yr achos yn symud ymlaen i erlyniad.

Ewch i'r ffurflen Cysylltwch â Ni

Oni bai bod gennych gŵyn weithredol wedi'i logio'n ffurfiol gyda'r gwasanaeth hwn, peidiwch ag anfon unrhyw recordiadau gweledol neu sain megis fideos ffôn symudol, recordiadau Noise App ac ati; ni fyddant yn cael eu derbyn a byddant yn cael eu dileu.

Galwadau y Tu Allan i Oriau

Gellir cysylltu â Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir y tu allan i oriau arferol ar gyfer galwadau a all gynnwys:

  • Larymau Tresmaswyr Clywadwy sydd wedi bod yn seinio ers mwy na 30 munud
  • Larymau Car sydd wedi bod yn canu'n barhaus am fwy na 15 munud

Ni fydd galwadau sy'n ymwneud â larymau yn cael eu hateb ar ôl 10pm ar unrhyw noson.

Gall drigolion Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ffonio 01656 643643

Gall drigolion Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg ffonio 0300 123 66 96

Gwasanaeth Sŵn Gyda'r Nos – trigolion Cyngor Caerdydd yn unig

Mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn darparu Gwasanaeth Sŵn yn y Nos ar ran Cyngor Caerdydd ar gyfer ei drigolion ar nos Wener a nos Sadwrn. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth.

Dim goddefgarwch o gamdriniaeth neu ymddygiad amhriodol

Ni fydd y Cyngor yn goddef cam-drin neu ymddygiad amhriodol tuag at ein swyddogion. Ni fydd unrhyw berson sy’n arddangos ymddygiad amhriodol tuag at swyddogion yn derbyn ymateb ac mae’n bosibl y bydd eu manylion yn cael eu trosglwyddo i Heddlu De Cymru.