Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Niwsans Arogl a Llwch

Tîm Gwasanaethau’r Gymdogaeth sy’n archwilio cwynion sy’n ymwneud ag arogl a llwch.

 

O dan adrannau 79 ac 80 Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd y caiff cwynion o’r fath eu prosesu, a chânt eu harchwilio i bennu a oes achos niwsans statudol exists.

Industrial-Site

Arogl

Bydd amlder, hyd a chryfder arogl yn cael eu cloriannu i benderfynu a ydy arogl yn niwsans.

Nid oes lefelau penodol na dyfeisiau mesur i ganfod arogl; gall archwiliad gymryd amser hir.

Rydyn ni’n dibynnu arnoch chi i ddarparu cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl. Gall cadw cofnod o amodau’r tywydd helpu archwiliadau swyddogion hefyd.

Y mathau nodweddiadol o aroglau y daw cwynion amdanynt gan amlaf ydy:

  • Ceginau Masnachol
  • Prosesau Diwydiannol

 

Nodwch:

Nid ydyn ni’n archwilio cwynion am arogleuon amaethyddol oni bai bod yr arogl yn eithafol ac yn barhaus.

Nid ydyn ni’n delio ag arogleuon coginio neu gyffuriau mewn cartrefi.

Construction-workers

Llwch

Mae gofyn bod problem gyda llwch yn ddigon sylweddol i amharu ar eich mwynhad o’ch eiddo neu’n niweidiol i iechyd cyn iddo gael ei bennu’n niwsans.

Mae cwynion am lwch fel arfer yn ymwneud â:

  • Safleoedd Adeiladu
  • Prosesau Diwydiannol

Caniateir rhai prosesau, e.e. chwarelu, a chaiff y rhain eu rheoleiddio gan ddeddfwriaeth arall, yn yr achos hwn, y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.

 

Dweud wrthon ni: Niwsans Arogl a Llwch

Os ydych chi’n teimlo bod llwch neu arogl yn effeithio ar eich bywyd, ffoniwch y GRhR:

Canllawiau