Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Defnydd Uchelseinyddion Allanol ar Safleoedd Busnes

Mae gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) bwerau i reoleiddio defnydd uchelseinyddion allanol ar safleoedd busnes.


Dylid cynnal lefel sain yr uchelseinyddion ar lefel sŵn cefndir. Er nad oes diffiniad cyfreithiol ar gyfer ‘sŵn cefndir’, bydd prawf rhesymol yn cael ei gynnal, h.y. ni ddylai fod mor uchel nes ei bod yn anodd cynnal sgwrs o flaen yr adeilad.

Yng Nghaerdydd, dylai defnydd uchelseinyddion allanol ar safleoedd busnes ddod i ben am 9p.m.

Mae’n bosibl y bydd methu â chydymffurfio hefyd yn arwain at adolygiad o’ch amodau trwydded cyfredol.