Manwerthwr Caerdydd yn cael ei erlyn am dorri gofynion diogelwch LPG
Mae manwerthwr o Gaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £2,500 ar ôl methu â chydymffurfio â hysbysiadau iechyd a diogelwch yn ymwneud â storio silindrau nwy petrolewm hylifol (LPG) yn ei safle busnes yn yr Eglwys Newydd.
15/9/2026
Ymddangosodd Mr Roger Walters, o Roger Walters of Whitchurch a Roger Walters Interiors, Heol Merthyr, Caerdydd, yn Llys Ynadon
Caerdydd ar ddydd Iau 3 Medi ar ôl methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwahardd Iechyd a Diogelwch a Hysbysiad Gwella Iechyd a Diogelwch a gyflwynwyd gan Wasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Dilynodd yr erlyniad gŵyn a dderbyniwyd gan aelod o'r cyhoedd ym mis Ebrill 2025 ynghylch storio stoc a silindrau LPG, gan gynnwys butan a propan, yn siop caledwedd Mr Walter.
Canfu arolygiadau dirybudd gan swyddogion Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir fod symiau gormodol o silindrau propan a butan yn cael eu storio y tu mewn i'r siop ger deunyddiau llosgadwy a gerllaw mynedfa flaen y siop, sef yr unig ffordd i mewn ac allan o’r siop ar y pryd.
Darganfu swyddogion silindrau LPG yn cael eu storio yn union y tu allan i'r fynedfa flaen hefyd heb eu ddiogelu a heb fod yn unol â chodau ymarfer y diwydiant. Er bod cawell storio yn y maes parcio cefn ar gyfer silindrau ychwanegol, roedd yr ardal gyfagos yn cynnwys deunyddiau llosgadwy, gan gynyddu'r risg o dân neu ffrwydrad yn sylweddol mewn ardal boblog ddwys.
Clywodd y llys nad oedd gweithwyr wedi cael gwybodaeth, hyfforddiant a chyfarwyddyd digonol ynghylch storio a thrin silindrau LPG yn ddiogel ac nad oeddent yn ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â'u defnydd.
Yn dilyn yr arolygiadau, cyflwynwyd Hysbysiad Gwahardd Iechyd a Diogelwch i Mr Walters yn cyfyngu ar faint o silindrau LPG y gellid eu storio y tu mewn i'r fangre. Canfu ymweliadau dilynol fod yr hysbysiad wedi'i dorri. Cyflwynwyd Hysbysiad Gwella Iechyd a Diogelwch iddo hefyd yn nodi’r angen i wella trefniadau storio LPG erbyn 31 Mai 2025. Fodd bynnag, ni roddwyd trefniadau addas ar waith tan fis Rhagfyr 2025.
Wrth grynhoi, nododd y Barnwr Rhanbarth, er nad oedd unrhyw niwed gwirioneddol wedi digwydd, bod risg sylweddol a thebygolrwydd o ganlyniadau difrifol yn deillio o'r trefniadau storio anniogel.
Dywedodd y Cynghorydd Ed Stubbs, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:
"Rhaid i fusnesau sy'n storio silindrau LPG wneud hynny yn unol â safonau diogelwch llym i amddiffyn gweithwyr, cwsmeriaid ac eiddo cyfagos. Os bydd silindrau LPG yn ffrwydro, gallant achosi difrod sylweddol ac er na chafodd unrhyw un ei niweidio yn yr achos hwn yn ffodus, cydnabu'r llys y risgiau sylweddol a grëwyd gan y trefniadau storio oedd ar waith yn y safleoedd hyn.
"Bydd Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn barod i roi camau gorfodi ar waith pan fydd busnesau yn methu â chydymffurfio â gofynion cyfreithiol sydd ar waith i gadw pobl yn ddiogel."
Cafodd Mr Walters ddirwy o £1,200 a'i orchymyn i dalu £1,077 tuag at gostau'r awdurdod lleol, ynghyd â gordal dioddefwr o £480.