Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gweithredwr Bwyty a’i Gwmni yn Cael Dirwy o Dros £3,500 yn Dilyn Troseddau Diogelwch Bwyd 

Mae gweithredwr bwyty a'i gwmni wedi cael gorchymyn i dalu dros £3,500 ar ôl i droseddau hylendid bwyd difrifol gael eu nodi mewn bwyty yn Llwynbedw, Caerdydd.

16/09/26

Plediodd Mr Motiur Rahman, 51 oed, o Gaerdydd, a'i fusnes, Spice Kitchen Ltd, yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd ar 2 Medi i droseddau dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd yn dilyn ymchwiliadau gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

Daeth yr achos i'r amlwg, pan ymwelodd swyddogion iechyd yr amgylchedd â'r safle, a oedd ar y pryd yn masnachu fel Delhi Cuisine, ym mis Hydref 2024,

 yn dilyn cais gan y cyhoedd. Yn ystod yr ymweliad, daeth swyddogion o hyd i'r busnes ar agor ac yn masnachu gyda phla o chwilod duon yn y busnes. Caeodd y safle yn wirfoddol ac arhosodd ar gau nes i'r problemau gael eu datrys.

Ailagorodd y busnes yn ddiweddarach dan yr enw masnachu Grand Sylhet, a weithredwyd gan Spice KitchenLtd. Yn ystod arolygiad pellach ym mis Ionawr 2025, canfu swyddogion fod y safle yn masnachu heb gyflenwad o ddŵr poeth. Roedd gweithgareddau trin bwyd risg uchel a oedd yn cynnwys bwydydd amrwd yn ogystal â bwydydd parod i'w bwyta yn mynd rhagddynt, er nad oedd unrhyw ffordd ddiogel o olchi dwylo neu offer. Caeodd y safle’n wirfoddol eto ac arhosodd ar gau nes bod dŵr poeth yn cael ei adfer.

Dywedodd y Cynghorydd Ed Stubbs, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: 

"Mae gan fusnesau bwyd gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod safonau hylendid bwyd priodol yn cael eu cynnal a sicrhau bod bwyd yn cael ei baratoi mewn amgylchedd diogel. Roedd yr amodau a nodwyd yn ystod yr arolygiadau hyn yn cyflwyno risgiau annerbyniol ac roedd angen gweithredu ar unwaith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

 

"Byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi cadarn lle canfyddir toriadau diogelwch bwyd difrifol ac ni fyddwn yn oedi cyn erlyn busnesau sy'n methu â chydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd."

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gweithio'n agos gyda busnesau i'w helpu i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol, ond bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd lle bo angen i amddiffyn defnyddwyr a chynnal hyder y cyhoedd mewn safonau diogelwch bwyd.

Cafodd Mr Rahman ddirwy o £240, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £200, ynghyd â Gordal Dioddefwr o £96. Cafodd Spice Kitchen Ltd ddirwy o £2,000, a gorchmynnwyd iddo dalu £200 mewn costau ynghyd a Gordal Dioddefwr o £800.