Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru

Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (UBAAC) yn targedu benthycwyr arian anghyfreithlon, a adwaenir yn fwy cyffredin dan eu henw Saesneg 'loan sharks' (neu fenthycwyr arian didrwydded yn Gymraeg). 

Rydym yn un o dri thîm cenedlaethol (Cymru, Lloegr a’r Alban) ac yn cael ein hariannu gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau Safonau Masnach lleol.

Rydym yn ymchwilio i fenthyca arian anghyfreithlon ac unrhyw droseddau cysylltiedig, yn ogystal â chefnogi dioddefwyr benthycwyr arian didrwydded. Gall benthycwyr arian didrwydded fod yn fân fenthycwyr sy’n manteisio ar ffrindiau neu aelodau’r teulu, ond weithiau maent yn droseddwyr treisgar a threfnus.

Gallwch ymweld â'n gwefan newydd Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru drwy glicio yma

Mae’r tîm yn cynnwys ymchwilwyr arbenigol a swyddogion cymorth i ddioddefwyr; ein prif flaenoriaeth yw diogelwch a lles y LoanSharkInstagram1000x1000px1dioddefwyr.Mae benthyca anghyfreithlon (benthyca heb drwydded) yn drosedd. Mae benthycwyr arian anghyfreithlon yn gweithredu heb awdurdod cyfreithiol ac yn aml maent yn targedu pobl sy'n agored i niwed. 

Beth yw Benthyciwr Arian Didrwydded?

Mae benthyciwr arian didrwydded yn unrhyw un sy’n benthyca arian heb yr awdurdod cyfreithiol angenrheidiol ac sy’n codi llog ar ben y benthyciad (mewn geiriau eraill maent yn benthyca arian ac yn disgwyl i unigolion dalu mwyn yn ôl na’r hyn a fenthycwyd.)

Mae benthycwyr arian didrwydded yn gweithredu mewn sawl ffordd wahanol. Un o’r mathau mwyaf cyffredin o fenthyca anghyfreithlon rydym wedi ymchwilio iddynt yw pan fo benthyciwr yn cymryd mantais ar ei ffrindiau ac aelodau ei deulu trwy roi benthyg arian ac yna mynnu ad-daliadau.

Ymhlith y mathau eraill o fenthycwyr rydym wedi ymchwilio iddynt mae landlordiaid twyllodrus, cyflogwyr twyllodrus, dryswyr tafarnau’n rhoi benthyg i gwsmeriaid, benthyca ymhlith cydweithwyr, a hyd yn oed benthyca ymhlith aelodau grŵp eglwys.

Pethau i chwilio amdanynt:

 

Cysylltu ag UBAAC

Gallech chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, fod yn ddioddefwr benthyciwr arian anghyfreithlon. Neu gallech chi feddwl bod benthyciwr arian didrwydded ar waith yn eich ardal chi. Gallwch gysylltu ag UBAAC ar linell gymorth 24 awr. Mae pob galwad yn gwbl gyfrinachol. Nid oes rhaid i alwyr roi eu henwau ac felly gallant aros yn anhysbys. 

0300 123 3311

imlu@caerdydd.gov.uk

facebook.com/stoploansharkswales

twitter.com/Stoploansharkswales

 

 

Hyfforddiant

Mae UBAAC yn cynnig hyfforddiant am ddim i weithwyr cymorth rheng flaen er mwyn eu helpu i adnabod gweithgarwch benthycwyr arian didrwydded a’r arwyddion bod cleientiaid yn ddioddefwyr – yn benodol os ydynt yn agored i niwed. Gellir addasu’r hyfforddiant ar gyfer staff/gwirfoddolwyr y Cyngor, cymdeithasau tai a sefydliadau cynghori.  

Fel arfer bydd sesiynau’n para rhwng awr ac awr a hanner ac maent am ddim. Gallwn gynnig sesiynau byrrach os bydd prinder amser. Rydym yn hyblyg yn y ffordd gallwn ddarparu’r hyfforddiant - er enghraifft, gallwn gynnig cyfres o sesiynau dros nifer o ddiwrnodau. 

Erbyn diwedd yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr ynmeddu ar ymwybyddiaeth ehangach o effaith benthyca arian anghyfreithlon ar bobl sy’n agored i niwed; gallu ceisio cymorth a chyngor arbenigol; bod yn hyderus wrth adnabod yr arwyddion bod cleientiaid wedi’u targedu gan fenthycwyr arian didrwydded.

I gysylltu â ni ynglŷn â hyfforddiant, ffoniwch 029 2087 1090

Gwersi am gadw ein harian yn ddiogel – Adnoddau i Athrawon

Trwy ddefnyddio arian a atafaelwyd o fenthycwyr arian didrwydded, rydym wedi datblygu adnodd addysgol ardderchog. Gyda chyfraniad gweithwyr proffesiynol addysgol, rydym wedi llunio cynlluniau gwersi (gan gynnwys deunydd fideo) i athrawon er mwyn helpu i hyrwyddo gallu ariannol a gwella sgiliau rheoli arian ymhlith pobl ifanc. 

Mae’r deunyddiau’n cyfrannu at amrywiaeth o feysydd y cwricwlwm, megis Mathemateg, Saesneg, ABGI, Drama, Celf a Dylunio ac yn darparu ar gyfer pob cyfnod allweddol. Mae ganddynt farc safon pfeg ac maent hefyd yn cyflawni llawer o amcanion dysgu craidd o’r fframweithiau cynlluniau cynradd ac uwchradd pfeg gan gynnwys:

Money

I ysgolion cynradd: gwersi am gadw’ch arian yn ddiogel, o ble daw arian a’r gwahaniaeth rhwng angen ac eisiau. Mae hefyd yn cyflwyno’r syniad o gynilo ac yn ystyried materion ynglŷn â chael a rhoi benthyg eiddo ac arian.

I ysgolion uwchradd: gwersi am roi a chael benthyg yn fwy diogel sy’n adlewyrchu amcanion gallu ariannol allweddol ynglŷn â phryd a sut i fenthyca, gwerthoedd sy’n gysylltiedig ag arian, cynilo a’r hyn a allai fynd o’i le os nad ydych yn gwneud y dewis iawn. Ceir gwersi am gredyd, chwilio am y fargen orau o ran credyd a pheryglon benthyca gan fenthycwyr arian didrwydded.

Deall benthyca arian yng Nghymru

Yn wreiddiol, comisiynodd Cyngor Bro Morgannwg Wordnerds i'w helpu i ddeall tirwedd benthyca arian ar-lein yng Nghymru, er mwyn:

  • gwerthfawrogi maint y broblem
  • addysgu pobl am yr hyn sy'n digwydd
  • deall beth mae pobl yn ei wneud pan maen nhw'n chwilio am fenthyciadau bach

Gellir gweld yr adroddiad llawn gan Wordnerds yma.