Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Ymweliadau Cyngor Hylendid Bwyd

Cyngor i fusnesau bwyd yng nghyd-destun cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd a chyrraedd y Sgôr Hylendid Bwyd uchaf.

Two-people-having-a-meetingMae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Os ydych chi’n bwriadu dechrau busnes newydd ac yn dymuno dechrau yn y ffordd orau, neu os ydy’ch busnes yn dioddef oherwydd sgôr hylendid bwyd isel ac mae angen gwasanaeth mwy penodol arnoch chi, gallwn ni ddarparu cymorth a chefnogaeth.

Efallai eich bod yn fusnes sy'n bodoli eisoes sydd eisoes wedi cael sgôr dda ond yn teimlo y byddech chi'n elwa o ffug arolygiad, neu gyngor wedi'i deilwra i'ch helpu chi i gynnal eich sgôr.

Am £134 + TAW, cewch ymweliad o ddwy awr gan swyddog cymwysedig, profiadol i roi help a chyngor i chi ar fynd i’r afael ag unrhyw faterion diogelwch bwyd neu hylendid. Codir tâl am ymweliadau cychwynnol o leiaf 2 awr, a gellir eu codi bob awr wedi hynny.

Yr Ymweliad Cyntaf

Mae ymweliad yn gyfle da i dderbyn cyngor ar ofynion strwythurol, rheoleiddio tymheredd, cylchdroi stoc, archwilio llif gwaith y busnes, cynghori ar systemau rheoli diogelwch bwyd ac archwiliadau prawf, ond ni chyfyngir y materion y gellir eu trafod i’r pynciau hyn.

Mae ymweliad yn cynnwys:

  • Ymgynghoriad cychwynnol
  • Ymweliad 2 awr o hyd ar adeg sy’n gyfleus i chi
  • Adroddiad ysgrifenedig sy’n crynhoi’r ymweliad a’r argymhellion a wneir

Pris

Ymweliad Cyntaf – £134 + TAW, ymweliad o leiaf 2 awr o hyd.

Yr Ymweliadau Nesaf

Ein nod ni ydy i’ch busnes chi fod yn ddiogel a chyrraedd y Sgôr Hylendid Bwyd uchaf posibl.

Dydy’r gwasanaeth hwn ddim ar gael i fusnesau sydd eisoes wedi dechrau masnachu ond heb gael eu harchwiliad cyntaf.

Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion penodol.

Pris

Ymweliadau nesaf – £67 yr awr + TAW

 

Trefnu Ymweliad

I ragnodi ymweliad cyngor hylendid bwyd, cysylltwch â Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a dweud a ydy’ch busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd neu Fro Morgannwg.

Nodir os gwelch yn dda - os ydych wedi cychwyn masnachu, ni fyddwn yn medru ymweld â chi tan AR ÔL eich arolygiad hylendid bwyd cyntaf. Mae'n bosib i ni ymweld â unrhyw fusnes sydd wedi derbyn ei arolygiad cyntaf neu unrhyw fusnes sydd heb gychwyn masnachu.

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU