Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Iechyd y Porthladd

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gweithredu fel Awdurdod Iechyd y Porthladd ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

DocksHwn ydy Awdurdod Iechyd y Porthladd ar gyfer:

  • Maes Awyr Caerdydd
  • Porthladd y Barri
  • Porthladd Caerdydd a’r ardal
  • Y dyfroedd o amgylch Ynys Echni, Bae Caerdydd, Marina Penarth
  • Llongau sy’n defnyddio Pier Penarth

 

Adrodd Salwch neu Farwolaeth

Dylai meistr llong neu gapten awyren sydd ar fin cyrraedd gysylltu â’r GRhR ar unwaith am gyngor, ac anfon Datganiad Iechyd cyflawn atom.

Ffurflen Datganiad Iechyd Morwrol

 

Archwiliad Glanweithdra neu Gais am Estyniad

Os ydych chi angen adnewyddu tystysgrif neu ofyn am estyniad i dystysgrif sy’n bodoli, cysylltwch â ni. Codir tâl am y gwasanaeth hwn.

Dadansoddiad Dŵr Croyw Llongau

Gallwn brofi eich dŵr croyw ar fwrdd y llong i sicrhau ei fod yn ddiogel i’w yfed, a darparu adroddiad labordy.

Hylendid Bwyd

Pan fydd llongau’n cael eu harchwilio, bydd ceginau’r llong a’r adnoddau storio bwyd yn cael eu harchwilio hefyd i sicrhau nad oes unrhyw berygl i ddiogelwch bwyd.

 

Rheoli Bwyd wedi’i Fewnforio

Ni sy’n gyfrifol am reoli mewnforio bwyd i’r Deyrnas Unedig ac i’r Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni’n gwneud hyn fel isod:

  • Monitro cargoau
  • Gwirio rhestrau cargo
  • Archwilio bwyd
  • Cymryd samplau

Am wybodaeth fanwl ar fewnforio bwyd, ewch i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Gwaredu Gwastraff Arlwyo Rhyngwladol

Mae Gwastraff Arlwyo Rhyngwladol (ICW) yn cyfeirio at wastraff arlwyo sy’n tarddu o ddulliau trafnidiaeth sy’n gweithredu’n rhyngwladol (h.y. y tu hwnt i’r UE). Mae ICW yn gweithredu fframwaith rheoleiddio trin a gwastraff llym er mwyn arbed cyflwyno clefydau egsotig hysbysadwy i’r DU. ICW sy’n gyfrifol am yr isod:

  • Gwastraff arlwyo a gynhyrchir gan geginau llongau
  • Plastig neu ddeunydd lapio wedi’u heintio gan wastraff arlwyo

Os oes angen i chi waredu ICW, cynghorir chi i gysylltu â Gweithredydd y Porthladd, a fydd yn gallu trefnu casgliad arbennig.

Gall Meistr llong sy wedi ‘gweithredu’n rhyngwladol’, h.y. y tu hwnt i’r UE, ddatgan nad ydy e’n cludo ICW ar yr amod fod storfeydd y llong wedi cael eu gwagio, eu glanhau, eu diheintio a’u hail-stocio yn yr UE. Ceir gwybodaeth bellach am ICW ar wefan DEFRA.

Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes

Yn anffodus, nid ydy Maes Awyr Caerdydd, Porthladd y Barri na Phorthladd Caerdydd wedi eu dynodi’n fynediadau awdurdodedig i’r DU yn unol â gofynion Pasbortau Anifeiliaid Anwes. Ni fydd anifeiliaid anwes yn medru glanio oni bai eu bod yn cael eu rhoi mewn cwarantin.

Bydd gofyn i feistri llongau sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu cadw’n ddiogel ar fwrdd y llong tra bo’r llong yn docio yng Nghaerdydd.

Caniatâd i Lanio (Free Pratique)

O dan Reoliadau Iechyd Cyhoeddus ar Longau 1979, mae’r term ‘Free Pratique’ wedi ei ddiffinio’n swyddogol fel caniatâd i long ddocio a dechrau gweithredu.

Os oes un o’r isod wedi digwydd, rhaid i feistr llong sy’n cyrraedd o wlad dramor ddweud wrth Awdurdod Iechyd y Porthladd amdano cyn cyrraedd:

  • Marwolaeth ar fwrdd y llong ac eithrio drwy ddamwain
  • Achosion o glefydau heintus neu symptomau clefydau heintus fel brech, gwres uchel, chwarennau wedi chwyddo, clefyd melyn neu ddolur rhydd digon difrifol i amharu ar waith neu weithgareddau arferol
  • Presenoldeb rhai anifeiliaid neu adar, ac unrhyw achos o farwolaeth neu salwch ymhlith yr anifeiliaid neu’r adar rheiny
  • Unrhyw amgylchiadau eraill sy’n debygol o arwain at ledaeniad clefydau heintus

Yn achos yr un o’r amodau hyn, bydd angen i’r Meistr:

  • Sicrhau nad oes neb heblaw peilot, swyddog tollau neu swyddog mewnfudo’n cael mynd ar fwrdd y llong na’i gadael, heb ganiatâd Awdurdod Iechyd y Porthladd, nes i ‘Free Pratique’ gael ei gadarnhau.
  • Llenwi datganiad iechyd morwrol a’i anfon at Awdurdod Iechyd y Porthladd.

 

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch chi, neu os hoffech drefnu i ni gymryd sampl dŵr, cysylltwch â ni: