Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cofrestru Busnes Bwyd

Cofrestru busnesau sy’n ymwneud â bwyd, yn cynnwys storio, gwerthu, paratoi, coginio a dosbarthu bwyd

Coffee-shopRhaid i chi fod wedi cofrestru â Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ers o leiaf 28 diwrnod cyn i chi ddechrau gweithredu unrhyw fusnes bwyd. Ni chodir tâl am gofrestru, ac ni ellir gwrthod cais i gofrestru.

Mae’n ofynnol i arlwywyr fod wedi eu cofrestru â’r awdurdod lleol yn ardal lleoliad y busnes, neu yn achos busnesau symudol, yn y fan lle cedwir y cerbyd dros nos.

Mae’n bwysig i chi wneud hyn, achos os ceir chi’n euog o redeg busnes bwyd heb fod wedi cofrestru, gallech chi gael eich dirwyo neu eich carcharu am hyd at 2 flynedd, neu’r ddau os ydych chi’n rhedeg busnes bwyd heb ei gofrestru.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd angen i chi ein hysbysu os oes newid perchnogaeth neu newid yn natur y busnes.

Gallwch chi gysylltu â ni i drafod eich gofynion a derbyn cyngor pan fyddwch yn sefydlu busnes newydd. Gallwn ni roi cyngor i chi ar ofynion strwythurol a’r system reoli diogelwch bwyd fydd eu hangen arnoch chi ar gyfer eich busnes.

Os ydych yn cynhyrchu a/neu’n storio ac yn cyflenwi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i fusnes arall, efallai y bydd angen i chi gael caniatâd gennym ni ymlaen llaw i wneud hynny. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Safleoedd a gymeradwywyd.

Cofrestru Busnes Bwyd

I gofrestru eich busnes ar-lein, cliciwch isod ar enw yr Awdurdod Lleol ble mae eich busnes wedi’i leoli neu ble mae eich cerbydau symudol / stondinau yn cael eu cadw dros nos. Mae'n bosib cwblhau y ffurflen yn y Gymraeg drwy glicio ar 'Cymraeg' ar y tab ar ben y dudalen:

Pen-y-Bont ar Ogwr          Caerdydd          Bro Morgannwg

 

neu llanwch ffurflen gais a’i dychwelyd at:

Cais am Gofrestriad Sefydliad Busnes Bwyd

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

 

Meddwl cychwyn busnes bwyd newydd?

Os oes gennych ddiddordeb mewn creu busnes bwyd newydd, rydym wedi creu canllawiau i helpu chi wneud penderfyniad.

 

 

Cyngor