Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Safleoedd a gymeradwywyd

Cyngor ac arweiniad i werthwyr bwyd sy’n ymgeisio cymeradwyaeth, archwiliadau a gweithredu o fewn safleoedd a gymeradwyir a rhoi cymeradwyaeth i fusnesau bwyd (llawn ac amodol).

ShellfishEfallai y bydd angen cymeradwyaeth ar eich busnes bwyd os ydy’ch busnes yn gwneud, paratoi neu drafod bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid i’w gyflenwi i fusnesau eraill. Mae bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid yn cynnwys:

  • Briwgig a pharatoadau cig
  • Cynnyrch cig a chig wedi ei wahanu’n fecanyddol
  • Molysgiaid dwyfalf byw a chynnyrch pysgodfeydd
  • Llaeth amrwd (ac eithrio llaeth buwch amrwd)
  • Cynnyrch y llaethdy
  • Wyau (nid y prif fan cynhyrchu) a chynnyrch wyau
  • Coesau broga a malwod
  • Braster anifeiliaid wedi ei doddi a choesarnau
  • Stumogau wedi eu trin, pledrennau a pherfeddion
  • Gelatin a cholagen
  • Rhai storfeydd oer a marchnadoedd cyfanwerthu

Ni chewch redeg eich busnes bwyd nes iddo gael ei gymeradwyo. Mae’n drosedd rhedeg safleoedd bwyd anghymeradwy, a gallwch gael eich erlyn am wneud hynny. I ddderbyn cymeradwyaeth, bydd angen i chi gydymffurfio â safonau glendid penodol.

Eithriadau

Os ydy’r busnes bwyd yn cyflenwi bwyd o darddiad anifeiliaid i’r defnyddiwr olaf yn unig, h.y. y person sy’n bwyta’r cynnyrch bwyd, yna maent wedi eu heithrio rhag bod angen cymeradwyaeth.

Yn ogystal, gall fod eithriad ar gael yn ddibynnol ar y graddau mae’r busnes yn dymuno cyflenwi bwyd o darddiad anifeiliaid i fusnesau eraill. Os nad ydych chi’n sicr a oes angen cymeradwyaeth ar eich busnes, cysylltwch â ni.

Gwneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post. Yn ogystal â’r ffurflen gais, bydd angen cynnwys:

  • Cynllun manwl wedi ei dynnu wrth raddfa o’r safle (arfaethedig) sy’n dangos lleoliad yr ystafelloedd ac ardaloedd eraill fydd yn cael eu defnyddio i storio a phrosesu deunydd amrwd, cynnyrch a gwastraff, a lleoliad yr adnoddau a’r cyfarpar

A disgrifiad o’r cynllun (arfaethedig) ar gyfer y:

  • System rheoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion HACCP
  • Trefnweithiau cynnal a chadw’r adeilad a’r cyfarpar
  • Trefnweithiau glanhau’r adeilad, y cyfarpar a’r cerbydau cludiant
  • Trefnweithiau casglu a gwaredu gwastraff
  • Cyflenwad dŵr
  • Trefnweithiau profi ansawdd y cyflenwad dŵr
  • Trefnweithiau ar gyfer profi’r cynnyrch
  • Trefnweithiau rheoli difa plâu
  • Monitro trefnweithiau iechyd staff
  • Trefnweithiau hyfforddiant hylendid i’r staff
  • Trefnweithiau cadw cofnodion

Ar ôl derbyn yr holl ddogfennaeth berthnasol, bydd angen i ni ymweld â’ch safle cyn gwneud penderfyniad ar eich cais. Bydd swyddog yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad ar ôl derbyn eich cais cyflawn.

Ymgeisio

I wneud cais drwy’r post, lawrlwythwch a chwblhau’r ffurflen gais Cymeradwyo Busnes Bwyd a’i dychwelyd atom drwy law neu drwy’r post at:

  • Y Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU

 

Gwrthod cymeradwyaeth

Os bydd y cais yn cael ei wrthod, mi fyddwch yn derbyn y rhesymau pam yn ysgrifenedig, ynghyd â gwybodaeth am y materion sydd angen eu datrys er mwyn i chi gydymffurfio â gofynion cymeradwyaeth. Byddwch hefyd yn derbyn gwybodaeth am eich hawl i apelio yn Llys yr Ynadon.

Ffurflenni ac arweiniad