Pâr o Gaerdydd yn Cael Dirwy ar ôl Torri Hysbysiad Sŵn
Mae dau berchennog busnes yng Nghaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £7,800 ar ôl methu â chydymffurfio dro ar ôl tro â gofynion cyfreithiol i reoli sŵn.
7.7.26
Cafodd Keith a Caroline Munro eu herlyn yn llwyddiannus gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) ar ôl torri hysbysiadau atal sŵn dro ar ôl tro. Roedd yr hysbysiadau hyn wedi'u cyhoeddi yn dilyn cwynion lluosog gan drigolion lleol am sŵn yn deillio o Kings Road Yard, 183A Heol y Brenin, Pontcanna, Caerdydd, CF11 9DF.
Roedd yr hysbysiadau atal sŵn yn ei gwneud yn ofynnol i'r diffynyddion gymryd camau priodol i reoli sŵn gormodol sy'n deillio o'u safleoedd. Roedd hyn yn cynnwys cerddoriaeth chwyddedig yn ogystal â sŵn cwsmeriaid yn ymgynnull yn y safle.
Dangosodd tystiolaeth a gyflwynwyd i'r llys fod y troseddau wedi cael effaith andwyol sylweddol ar drigolion cyfagos, gan effeithio ar eu gallu i fwynhau eu cartrefi a'u gerddi ac effeithio ar ansawdd eu bywyd.
Cafodd yr achos ei glywed yn Llys Ynadon Caerdydd gerbron Barnwr Rhanbarth, lle’r oedd y ddau ddiffynnydd yn bresennol ac yn pledio'n euog.
Gosododd y llys y cosbau ariannol canlynol ar bob diffynnydd:
- Dirwy o £1,000 (£200 am bob un o'r pum trosedd, wedi'i gostwng oherwydd iddynt bledion euog)
- Cyfraniad o £2,500 tuag at gostau erlyn
- Gordal dioddefwr o £400
- Gorchmynnwyd pob diffynnydd i dalu cyfanswm o £3,900.
Mynd i'r Afael â Chwynion Sŵn
Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cyflawni swyddogaethau iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a thrwyddedu ar ran cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r gwasanaeth yn ymchwilio i ystod eang o faterion sŵn, gan gynnwys cerddoriaeth chwyddedig, aflonyddwch domestig a gweithgareddau masnachol sy'n effeithio ar drigolion.
Gall trigolion roi gwybod am bryderon sŵn ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 66 96. Mae gan drigolion Caerdydd fynediad at Wasanaeth Sŵn Gyda’r Nos hefyd sy'n gweithredu ar nos Wener a nos Sadwrn.
Dywedodd y Cynghorydd Ed Stubbs, yr Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a Gwasanaethau Amgylcheddol:
“Gall aflonyddwch sŵn gael effaith ddifrifol a pharhaol ar iechyd a lles pobl. Yn yr achos hwn, roedd tystiolaeth glir bod effaith sylweddol ar ansawdd bywyd trigolion dros gyfnod o amser.
Rydym bob amser yn ceisio gweithio'n adeiladol gyda busnesau ac unigolion i ddatrys problemau yn gynnar, gan gynnig cyngor a chefnogaeth i'w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau. Fodd bynnag, pan fi hysbysiadau cyfreithiol yn cael eu hanwybyddu dro ar ôl tro, byddwn yn cymryd camau gorfodi heb oedi.
Mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i amddiffyn cymunedau lleol a sicrhau bod trigolion yn gallu mwynhau eu cartrefi heb aflonyddwch afresymol.”