Gorchymyn i Gymydog Swnllyd Dalu Dros £800 yn Dilyn Erlyniad yn y Llys
Mae un o drigolion Caerdydd wedi cael gorchymyn i dalu mwy nag £800 ar ôl torri hysbysiad atal sŵn dro ar ôl tro.
17/04/26
Cafodd Mr Kervin Julien o Ferry Road, Caerdydd, ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ddoe (16 Ebrill) yn dilyn erlyniad gan y
Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) am dorri hysbysiad atal sŵn teirgwaith mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth yn rhy swnllyd yn ei eiddo.
Cyflwynwyd yr hysbysiad atal sŵn i Mr Julien ym mis Awst 2025 yn dilyn nifer o gwynion gan gymdogion am lefelau sŵn annerbyniol yn dod o'i eiddo. Roedd yr hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i Mr Julien leihau'r niwsans trwy leihau lefel y gerddoriaeth fel nad oedd yn tarfu ar breswylwyr cyfagos.
Er gwaethaf y rhybudd ffurfiol hwn, derbyniwyd rhagor o gwynion ac yn dilyn ymchwiliadau pellach, roedd swyddogion GRhR, gan gynnwys swyddogion a oedd yn gweithio fel rhan o Wasanaeth Sŵn Gyda’r Nos Cyngor Caerdydd, yn dyst i achosion o dorri’r hysbysiad.
Plediodd Mr Julien yn euog i bob un o'r tri chyhuddiad o fethu â chydymffurfio â'r hysbysiad atal sŵn pan glywyd y mater gan y llys ddoe.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Gall niwsans sŵn gael effaith sylweddol a niweidiol ar ansawdd bywyd, lles ac iechyd pobl. Mae pawb yn haeddu mwynhau eu cartrefi heb darfu parhaus, ac mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cymryd cwynion am gymdogion swnllyd o ddifrif.
“Mewn llawer o achosion, gellir datrys problemau gyda chyngor ac ymyrraeth gynnar. Fodd bynnag, pan fydd unigolion yn methu ag ymateb i rybuddion neu’n parhau i achosi niwsans, mae ystod o bwerau gorfodi ar gael i’r gwasanaeth, gan gynnwys erlyniad ac atafaelu offer sy’n creu sain fel stereos a setiau teledu.
“Yn yr achos hwn, methodd Mr Julien dro ar ôl tro â chydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol rwymol a pharhaodd i darfu ar breswylwyr cyfagos. O ganlyniad, rhoddodd y llys gosb ariannol sylweddol. Rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn anfon neges glir am bwysigrwydd parchu cymdogion a chydymffurfio â deddfwriaeth rheoli sŵn.”
Am bob un o'r tair trosedd, cafodd Mr Julien ddirwy o £150, a ostyngwyd i £100 yr un oherwydd iddo bledio'n euog yn gynnar. Cyfanswm y gorchymyn ariannol a osodwyd gan y llys oedd £811, gan gynnwys dirwy o £300, Gordal Dioddefwr o £120, a £391 arall ar gyfer costau erlyniad.
Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn darparu gwasanaethau iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a thrwyddedu ar ran Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r gwasanaeth yn ymchwilio i gwynion sy'n ymwneud â sŵn, gan gynnwys cerddoriaeth swnllyd, cŵn yn cyfarth, larymau, gweithgareddau gwaith y cartref, offerynnau cerdd, a sŵn masnachol.
Gellir cyflwyno cwynion am sŵn ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 66 96. Mae GRhR hefyd yn darparu Gwasanaeth Sŵn Gyda’r Nos i drigolion Caerdydd, sydd ar gael ar un rhif cyswllt o 7pm ar nos Wener a nos Sadwrn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.