Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Postfeister dibynadwy ac yna siarc benthyg arian a gamfanteisiodd ar y gymuned am flynyddoedd

Mae dyn 69 oed wedi pledio'n euog yn Llys y Goron Caerdydd am redeg gweithrediad benthyca arian yn anghyfreithlon a gwyngalchu enillion troseddau. 

21/04/26

Plediodd Jonathan Mark Barry, cyn-bostfeistr yng Nghilâ, Abertawe, yn euog i'r troseddau o fenthyca arian yn anghyfreithlon a gwyngalchu arian yn dilyn ymchwiliad manwl gan Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru.

Dechreuodd yr ymchwiliad i Barry ar ôl i Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru dderbyn gwybodaeth yn nodi bod Jonathan Michael Barry yn benthyca arian yn anghyfreithlon, y cyfeirir ato'n gyffredin fel siarc benthyg arian. Ym mis Gorffennaf 2024, cynhaliodd swyddogion warantau chwilio yn ei gartref ac yn Swyddfa Newyddion a Phost Cilâ. Yn ystod y chwiliadau, fe wnaethant ddarganfod £37,000 mewn arian parod, ynghyd ag eitemau moethus drud gan gynnwys oriawr aur, breichled diemwnt a sawl bar aur.

Trwy ei gofnodion ariannol, datgelwyd bod Barry yn siarc benthyg arian toreithiog ac y bu’n gweithredu dros gyfnod hir o amser. Llwyddodd ymchwilwyr i adnabod tua 120 o ddioddefwyr a oedd wedi cael eu hecsbloetio gan Barry dros gyfnod o bedair blynedd ar ddeg.

Datgelodd cofnodion banc ei fod wedi cyhoeddi tua £130,000 mewn benthyciadau anghyfreithlon ac wedi derbyn mwy na £344,000 mewn ad-daliadau ac adneuon arian parod heb eglurhad. Cododd gyfraddau llog yn amrywio o 20% i 1,303% syfrdanol, gan adael llawer o ddioddefwyr heb fawr ddim arian i fyw arno ar ôl ad-dalu Barry.

Dywedodd Christina Hill, Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: "Defnyddiodd Barry ei swydd fel postfeistr dibynadwy yng nghanol ei gymuned i fanteisio ar bobl a oedd yn credu eu bod yn gallu dibynnu arno. Roedd llawer o'r rhai a drodd ato yn wynebu amgylchiadau anodd eisoes, ac yn hytrach na chynnig cymorth gwirioneddol, tynnodd nhw i gylch o ddyled, pryder a straen ariannol. 

"Yn Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r rhai dan sylw i sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth, arweiniad clir a'r amddiffyniad maen nhw’n ei haeddu wrth iddyn nhw ddechrau symud ymlaen. Ni ddylai neb byth deimlo bod yn rhaid iddyn nhw droi at fenthyciwr anghyfreithlon, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sefyll i fyny dros ddioddefwyr a chymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy'n ceisio eu hecsbloetio."

Bydd gwrandawiad dedfrydu yn cael ei gynnal yn ddiweddarach.

Gellir cysylltu ag Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru drwy:

Llinell Gymorth 24/7: 0300 123 3311

Gwefan: www.atalsiarcodbenthygariancymru.co.uk