Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Cymerodd masnachwr o Borthcawl daliad gan gwsmer am warant modur nad oedd erioed yn bodoli

Canfu ymchwiliad gan Safonau Masnach fod Mr Liam Thomas wedi achosiWarranty colled o fwy na £300 i breswylydd lleol

Mehefin 29, 2023

Ar 29 Mai 2021 yn Avis Motor Company Ltd, 285-287 Heol Newydd, Porthcawl, dywedodd Mr Thomas wrth ddefnyddiwr y byddai’n cofrestru gwarant estynedig gyda Warranty Wise ar gyfer cerbyd yr oedd wedi’i brynu.

Cymerwyd y taliad oddi wrth y cwsmer, ond ni phrynwyd y warant gan Mr Thomas erioed, gan arwain at golled i'r defnyddiwr o £364.

Clywyd achos a ddygwyd gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir gerbron Llys Ynadon Caerdydd i’w ddedfrydu yn dilyn pledion euog a gofnodwyd ar 16 Chwefror 2023 i droseddau o dan Ddeddf Twyll 2006 a Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008.

Cafodd Mr Thomas orchymyn cymunedol 12 mis yn cynnwys 20 awr o adsefydlu i fynd i'r afael â'i droseddu a 132 awr o waith di-dâl. Gorchmynnwyd iddo hefyd dalu £1,500 o gostau a £96.00 o ordal llys.